Beth wyt ti'n edrych am?
Jersey Boys
Dyddiad(au)
11 Awst 2026 - 22 Awst 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae’r bechgyn ‘nôl wrth i’r sioe syfrdanol wreiddiol a enillodd wobr Tony ddychwelyd ar gyfer ei 20 mlwyddiant!
Ewch y tu ôl i’r gerddoriaeth a thu mewn i stori Frankie Valli a’r Four Seasons yn y ffenomenon cerddorol am fywydau go iawn, Jersey Boys. O strydoedd New Jersey i Oriel Anfarwolion Roc a Rôl, dyma sioe gerdd arbennig.
Roedden nhw’n bedwar dyn cyffredin o Jersey, nes iddyn nhw ganu eu nodyn cyntaf. Roedd ganddyn nhw sain nad oedd neb wedi’i glywed… a doedd y radio methu cael digon. Ond er bod ei harmonïau yn berffaith ar y llwyfan, oddi ar y llwyfan roedd hi’n stori wahanol iawn – stori sydd wedi’i gwneud nhw’n sêr rhyngwladol unwaith eto.
Mae’r sioe yn cynnwys eu caneuon poblogaidd i gyd fel Sherry, Big Girls Don’t Cry, Walk Like A Man, Can’t Take My Eyes Off You, Beggin’, Oh What a Night a mwy.