The Spy Who Came In From The Cold

Dyddiad(au)

28 Ebr 2026 - 02 Mai 2026

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Y nofel ysbïo a newidiodd bopeth. Nawr yn fyw ar y llwyfan.

Am y tro cyntaf erioed, mae nofel gan John le Carré – meistr cydnabyddedig y genre ysbïo modern y mae ei lyfrau yn cynnwys Tinker, Tailor, Soldier, Spy a The Night Manager – yn dod yn fyw mewn addasiad llwyfan cyffrous.

Gyda Ralf Little yn serennu, mae The Spy Who Came In From The Cold yn daith afaelgar drwy dir niwlog ysbïo, twyll a chyfaddawd moesol y Rhyfel Oer.

Mae’r swyddog cudd-wybodaeth Prydeinig Alec Leamas yn flinedig, wedi caledu ac yn barod i ddod i mewn o’r oerfel. Ond pan mae Control, Pennaeth y ‘Circus’ yn cyflwyno un genhadaeth olaf – peryglus, twyllodrus a hynod bersonol – mae Leamas yn cytuno i aros yn y gêm. Ar ôl cael ei anfon i diriogaeth y gelyn, mae ei gredau yn cael eu profi a’i amddiffyniadau yn cael eu torri gan Liz Gold, llyfrgellydd tawel ond heriog y mae ei thosturi yn bygwth toddi ei galon rewllyd. A beth am y meistr ysbïwr profiadol George Smiley? Beth yw ei rôl e yn yr ymgyrch?

Yn dilyn rhediad yn Chichester Festival Theatre a werthodd allan ac yn syth o’r West End, mae’r ddrama newydd gafaelgar yma a ysgrifennwyd gan David Eldridge ac a gyfarwyddwyd gan Jeremy Herrin  yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru am wythnos yn unig.