Sikhiaid yng Nghymru | Archwilio Treftadaeth, Mudo, a Chreu Cymuned

Dyddiad(au)

17 Ion 2026 - 12 Maw 2026

Amseroedd

10:30 - 16:30

Lleoliad

Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

“Mae’r arddangosfa hon yn dathlu hanes a chyfraniadau’r gymuned Sikhaidd yng Nghymru sy’n aml yn cael eu hanwybyddu. Mae’n darparu llwyfan unigryw i rannu straeon, treftadaeth a diwylliant wrth agor sgyrsiau sy’n cryfhau cysylltiadau cymunedol.”

“Mae Sikhiaid yng Nghymru yn dod â hanesion cudd yn fyw—trwy arteffactau, ffotograffau, ffilm a straeon personol. Mae’n adlewyrchu sut mae Sikhiaid wedi amddiffyn eu hunaniaeth tra hefyd yn addysgu eraill am bwy ydyn nhw.”

“I mi, mae hyn hefyd yn rhan o stori bersonol gan fy mod i’n Sikh a anwyd yng Nghaerdydd. Mae’n daith i ddarganfod ac ailgysylltu â’m treftadaeth, o’r Gurus Sikhaidd a’r Ymerodraeth Sikhaidd, hyd at y cenedlaethau a fudodd ac a ymgartrefodd yng Nghymru ers diwedd y 19eg ganrif.”

“Rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr yn dysgu am y ffordd o fyw Sikhaidd, gwerthoedd a chyfraniadau i gymunedau lleol. Mae ein hanes wedi cael ei drosglwyddo drwy ddarlithoedd, arferion diwylliannol, ac adrodd straeon llafar—ac mae pob un ohonynt yn parhau i lunio pwy ydym ni heddiw.”

“Drwy archwilio’r straeon hyn, ein nod yw tynnu sylw at sut y gall deall ein gorffennol ysbrydoli dyfodol mwy cynhwysol a chadarnhaol. Gobeithiwn y byddwch yn gadael gyda mewnwelediadau newydd, myfyrdodau, ac efallai cysylltiad newydd â’ch treftadaeth eich hun.”
— Harchran Singh

Arddangosfa gan Harchran Singh, noddir gan Mark Drakeford AS