Beth wyt ti'n edrych am?
Nigel Kennedy
Dyddiad(au)
25 Maw 2026
Amseroedd
19:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae’r feiolinydd meistrolgar Nigel Kennedy yn dychwelyd ar gyfer ei daith gyntaf – a’r mwyaf – yn y DU ers dros ddeng mlynedd. Bydd y feiolinydd mwyaf llwyddiannus yn y byd yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed yn 2026 ac mae mor fywiog a difyr ag erioed.
Bydd hon yn noson unigryw o gerddoriaeth glasurol, jazz a chyfoes gan feiolinydd byw gorau’r DU. Disgwyliwch ychydig bach o Bach, ochr yn ochr â’r dehongliad mwyaf cain erioed o A Nightingale Sang In Berkeley Square. Bydd cyfansoddiadau Nigel ei hun yn cael eu chwarae, gan gynnwys teyrnged deimladwy i Yehudi Menuhin a Stephane Grappelli, a wnaeth ddysgu, mentora ac ysbrydoli Nigel yn ystod ei flynyddoedd cynnar. Bydd Nigel hefyd yn perfformio ar y piano, a allai synnu rhai ond a fydd yn diddanu pawb, gan nad oes ffiniau ar ei ddawn feistrolgar. Yng nghwmni ei ffrindiau mawr, Alec Dankworth (mab y diweddar John Dankwork a Clio Laine) ar y bas dwbl; a Peter Adams ar y soddgrwth, dyma gyfle prin i weld rhai o’r cerddorion meistrolgar mwyaf mae’r wlad hon wedi’u cynhyrchu erioed.
Dangosodd Kennedy ei dalent yn gynnar ac enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Gerdd Yehudi Menuhin yn ddim ond 7 oed. Yn 13 oed, cyflwynwyd Kennedy i’r arwr feiolin jazz Stephane Grappelli, gan sbarduno diddordeb gydol oes yn y genre. Daeth y pâr yn ffrindiau mawr, gan deithio theatrau, clybiau gwerin, ac yng nghlwb jazz enwog Ronnie Scott yn Llundain, lle perfformiodd Kennedy am y tro cyntaf.
Fe wnaeth recordiad poblogaidd Kennedy ym 1989 o The Four Seasons gan Vivaldi ei wneud yn seren ryngwladol a thrawsnewid y sîn gerddoriaeth glasurol er gwell: does dim pobl hunanbwysig mewn gig Nigel Kennedy. Mae ymagwedd gynhwysol ac agored Nigel at bob arddull o gerddoriaeth yn parhau hyd heddiw ac mae wedi ennill gwrandawyr iddo ledled y byd.
Mae Nigel yn cyfuno cymysgedd unigryw o gerddoriaeth gydag egni, deinameg a gallu cerddorol technegol ac emosiynol syfrdanol, a fydd yn swyno cynulleidfaoedd.