Kevin Sinfield

Dyddiad(au)

20 Ebr 2026

Amseroedd

19:30

Lleoliad

Theatr Newydd, Plas y Parc, Caerdydd CF10 3LN

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Kevin Sinfield, un o’r chwaraewyr mwyaf llwyddiannus yn hanes rygbi’r gynghrair. Ar ôl ennill llawer o bencampwriaethau a chael nifer o lwyddiannau yn y Gwpan Her fel rhan o dimau gwych, enillodd hefyd anrhydeddau unigol fel enillydd Tlws Lance Todd, Tlws Harry Sunderland, ac mae’n un o ddim ond pum chwaraewr o Brydain i ennill yr Esgid Aur atyniadol yn ogystal â derbyn MBE yn 2014 (gwasanaethau i rygbi’r gynghrair), OBE yn 2021 (gwasanaethau i rygbi’r gynghrair a chodi arian i elusen) a CBE yn 2024 (gwasanaethau i ymwybyddiaeth o glefyd niwronau motor).

Ond mae rhywbeth yn y ffordd gynnil mae’n gwneud hynny, y meddylfryd anhygoel a’r gwyleidd-dra sydd ganddo wrth eu cyflawni. Mae ganddo reswm a dyna sy’n ei gadw i fynd ac ar 20 Ebrill 2026 yn y Theatr Newydd, cawn y pleser o glywed ei hanes.

Wrth gwrs, allwn ni ddim dweud unrhyw stori am Kevin wrthoch chi heb sôn am ei gyfeillion ac un cyfaill yn arbennig, sef Rob Burrow. Maen nhw wedi bod yn ffrindiau ers eu bod nhw’n 14 a 12 oed ac fe aethon nhw ymlaen i eistedd ar bwys ei gilydd bob dydd yn yr ystafell newid trwy gydol 15 mlynedd o rygbi yn rhan o un o dimau gwych rygbi’r gynghrair. Roedd eu cyfeillgarwch yn ymestyn y tu hwnt i’r cae, a thyfodd eu cysylltiad yn gryfach dros y blynyddoedd. O fuddugoliaethau gyda’i gilydd i wynebu heriau bywyd.

Noson o ysbrydoliaeth, cymhelliant ac arweinyddiaeth. Digwyddiad sy’n derbyn adolygiadau gwych ym mhob man y mae’n mynd.