Beth wyt ti'n edrych am?
Josh Widdicombe
Dyddiad(au)
10 Mai 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Josh Widdicombe yn ôl ar daith, (ddim eto!) Erbyn hyn, mae e bron yn sicr wedi meistroli’r grefft o stand-yp, naill ai hynny neu mae e wedi gwastraffu 15 mlynedd diwethaf ei fywyd. Dewch draw a phenderfynu drostoch chi eich hun. Disgwyliwch i’r sioe fod yn fyrrach a gyda safon cynhyrchiad is na thaith Eras Taylor Swift, ond yn fwy doniol a gyda mwy o gyfeiriadau at baneidiau o de.
Mae Josh yn cyd-gyflwyno’r podlediad hynod boblogaidd Parenting Hell gyda Rob Beckett, sydd rhywsut wedi dod mor boblogaidd nes iddyn nhw fynd ar daith arena fyw yn 2023 a rhyddhau llyfr a gyrhaeddodd frig siartiau’r Sunday Times. Mae e wedi cyd-gyflwyno dros 30 o gyfresi o’r gyfres lwyddiannus The Last Leg ar Channel 4, yn gapten tîm ar Rob Beckett’s Smart TV ar Sky Max, ac yn cyd-gyflwyno Hold The Front Page ar Sky. Ac mae ganddo gasgliad bron yn gyflawn o lyfrau sticeri pêl-droed Panini.