Beth wyt ti'n edrych am?
Al Murray
Dyddiad(au)
22 Hyd 2026
Amseroedd
19:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Hei gathod cŵl! Ar ôl taith boblogaidd â 138 o sioeau o’r ynysoedd gwyrdd a bendigedig hyn, bydd The Guv yn ôl gyda sioe stand-yp newydd sbon ar gyfer 2026. Does dim gwadu bod y byd yn llanast, gyfaill, ond mae llygedyn o obaith wrth i’r Pub Landlord ddychwelyd gyda’i synnwyr cyffredin heb ei ail, gan gynnig tonig mawr ei angen o wirionedd (peint i’r gŵr/gwydraid o win gwyn i’r wraig) ar gyfer yr amseroedd cythryblus hyn. Gyda pheint ffres ac ewynnog yn ei law, llond casgen o chwerthin, a blodyn yn ei galon, The Guv yw’r cyfan sydd ei angen arnoch chi.
Ac i’r cathod dewr, beiddgar, a gwyllt yn eich plith sydd eisiau bod yn rhan o’r hwyl yn y ‘Splash Zone’, archebwch y tocynnau’n gyflym a gwisgo’r ponsios!