Mae Croeso Caerdydd wedi ymuno â noddwyr canol dinas Cardiff Devils i gynnig gwobr anhygoel i ddau!

Bydd un enillydd lwcus a’i westai yn mwynhau:

  • ️🛏️ Aros dros nos yng ngwesty’r Clayton Caerdydd gyda brecwast
  • 🍽️ Cinio i ddau yn Côte Brasserie
  • 🍺 Noson allan yn Barbara’s Bier Haus
  • 🏰 Tocynnau i Gastell Caerdydd

Dyma’ch cyfle i ddod yn ôl ac archwilio mwy o Gaerdydd, o’r sîn fwyd fywiog a’i bariau prysur i’w lletygarwch croesawgar, a’r cyfan yng nghanol y ddinas.

AROS DROS NOS YNG NGWESTY’R CLAYTON CAERDYDD

Heol Eglwys Fair, CF10 1GD

Mae’r gwesty hwn, sy’n dafliad carreg o orsaf Caerdydd Canolog, yn cynnig croeso cynnes ac elfen bersonol.  A hithau ond yn dro bach o Ganolfan Siopa Dewi Sant, Castell Caerdydd, a Pharc Bute, mae’n ganolfan berffaith i archwilio’r ddinas. P’un a ydych chi’n mynd i Stadiwm Principality neu’n crwydro i lawr i Fae Caerdydd, mae popeth o fewn cyrraedd.

 

NOSON ALLAN YN BARBARA’S BIER HAUS

4-6 Lôn y Felin, CF10 1FL

Camwch i mewn i’r bar sydd wedi’i ysbrydoli gan Bafaria, lle nad yw’r parti byth yn dod i ben.  Y lle hwn, sy’n adnabyddus am ei naws après-ski, cerddoriaeth wych, a hwyl wirioneddol, yw’r lle gorau ar gyfer noson allan fywiog.  Fel rhan o’ch gwobr, cewch gyfle i fwynhau rhannu pizza a thŵr cwrw, sy’n berffaith ar gyfer mwynhau’r awyrgylch.

TOCYNNAU I ARCHWILIO CASTELL CAERDYDD

yn Stryd y Castell, Caerdydd, CF10 3RB

Mae Castell Caerdydd yn llawn hanes epig wedi’i ysgrifennu yn y cerrig, lle gallwch archwilio bron i 2,000 flynedd o hanes yng nghanol y ddinas. Yn ogystal ag olion caer Rufeinig a chadarnle Normanaidd, gallwch weld y gyfres foethus o fflatiau Fictoraidd neo-Gothig a grëwyd ar gyfer 3ydd Ardalydd Bute, un o ddynion cyfoethoca’r byd yn ei amser.

 

COFRESTRWCH I GYSTADLU

Cliciwch isod i gymryd rhan yn ein raffl Cardiff Devils. Mae’r cyfnod cystadlu bellach ar agor. Gwnewch yn siŵr eich bod yn adolygu'r holl delerau ac amodau isod ac yn cymryd amser i lenwi'ch holl wybodaeth yn gywir. Pob lwc!

TELERAU AC AMODAU

  • Nid oes rhaid prynu dim byd: Mae modd cymryd rhan yn y gystadleuaeth am ddim ac nid oes angen prynu dim.
  • Dyddiad dechrau: Dydd Gwener 14 Awst 2026.  Dyddiad cau:   23:59 GMT Dydd Llun 5 Ebrill 2027.
  • Er mwyn cymryd rhan yn y raffl, rhaid i ymgeiswyr roi eu manylion drwy’r wefan.
  • Ni chaiff ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau a nodwyd eu derbyn.
  • Nid yw Croeso Caerdydd yn derbyn cyfrifoldeb am geisiadau a gollwyd, er enghraifft, oherwydd unrhyw fethiant offer, nam technegol, rhwydwaith, gweinydd, caledwedd cyfrifiadurol neu fethiant meddalwedd o unrhyw fath.
  • Bydd gwybodaeth a ddarperir gan ymgeiswyr yn cael ei defnyddio at ddibenion gweinyddu’r raffl yn unig.
  • Drwy gystadlu, rydych yn cytuno y gall unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych gyda’ch cais gael ei chadw a’i defnyddio at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth.
  • Bydd cyfle i gydsynio i dderbyn deunyddiau hyrwyddo ychwanegol ar gael adeg mynediad.
  • Terfyn Gwneud Cais:  Dim ond unwaith y caiff pob person gofrestru cais.
  • Dim ond preswylwyr y DU sy’n 18 oed ac yn hŷn gaiff gofrestru.
  • Rhaid i’r enillydd allu archebu ac adbrynu pob tocyn rhodd o fewn yr amser fydd yn cael ei neilltuo.
  • Mae Croeso Caerdydd yn cadw’r hawl i’ch gwahardd os yw eich ymddygiad yn groes i ysbryd neu fwriad y raffl.
  • Oni nodir yn wahanol, nid yw ein raffl wobrau yn agored i gyflogeion tîm Croeso Caerdydd yng Nghyngor Caerdydd, eu teuluoedd, asiantau nac unrhyw drydydd parti sy’n uniongyrchol gysylltiedig â gweinyddu’r raffl.
  • Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap o’r holl geisiadau dilys gan gyfranogwyr – a bydd yn cael gwybod dros y ffôn a thrwy e-bost ddydd Mawrth 6 Ebrill 2027.
  • Gwneir pob ymdrech resymol i gysylltu â’r enillydd. Rhaid i’r enillydd hawlio ei wobr erbyn 17:00 GMT ddydd Llun 12 Ebrill 2027, neu bydd enillydd arall yn cael ei ddewis.
  • Bydd y cadarnhad a’r amserlen yn cael eu hanfon at yr enillydd heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill 2027.
  • Bydd cyfenw a lleoliad yr enillydd ar gael trwy gais e-bost am un mis ar ôl i’r gystadleuaeth ddod i ben.
  • Ni ellir cyfnewid na throsglwyddo’r wobr ac ni chynigir arian parod yn ei lle. 
  • Nid yw teithio a thrafnidiaeth wedi’u cynnwys fel rhan o’r wobr.
  • Ceidw Croeso Caerdydd yr hawl i newid y wobr am wobr arall o werth cyfartal neu uwch os oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth yr Hyrwyddwr mae angen gwneud hynny.
  • Ceidw Croeso Caerdydd yr hawl i ddiddymu, canslo, gohirio neu ddiwygio’r hyrwyddiad pe bai angen gwneud hynny.
  • Atebolrwydd: Nid yw’r hyrwyddwr yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod, colled, anaf neu siom a ddioddefir gan ymgeiswyr o ganlyniad i gymryd rhan yn y raffl.
  • Cyfraith Berthnasol: Mae telerau ac amodau’r raffl hon yn ddarostyngedig i gyfraith Lloegr.
  • Drwy gyflwyno un neu ragor o geisiadau rydych yn cytuno i ymrwymo i’r Telerau ac Amodau hyn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â hello@visitcardiff.com
  • Manylion yr Hyrwyddwr: Hyrwyddir y gystadleuaeth gan Groeso Caerdydd, rhan o Gyngor Caerdydd, a leolir yn Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.

Tocyn rhodd ar gyfer:

  • Arhosiad 1 noson i 2 berson.
  • Ystafell ddwbl neu ddwy wely safonol, gwely a brecwast.
  • Cofrestru cynnar o 12:00 a gadael cyn hwyred ag 13:00 yn gynwysedig.
  • Brecwast wedi’i weini o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 6.30am a 10.00am.  Dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc rhwng 7.00am a 10.30am.
  • Gallai rhai diwrnodau gael eu heithrio, mae telerau ac amodau’n berthnasol.

Tocyn rhodd ar gyfer:

  • Mynediad, 1 pizza i’w rannu ac 1 tŵr cwrw i’w rannu.
  • Ddim yn ddilys ar ddiwrnodau digwyddiadau mawr nac yn ystod cyfnod y Nadolig.
  • Rhaid archebu ymlaen llaw trwy kaylie.bunce@neoshospitality.co.uk

Tocyn rhodd ar gyfer:

£40.00 i’w adbrynu yn Swyddfa Docynnau Castell Caerdydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.