Beth wyt ti'n edrych am?
MAE CYSTADLEUAETH Y CANT YN DOD I GAERDYDD YR HAF HWN
Dyma’r cyfan sydd angen ei wybod am yr hyn sy’n addo bod yn un o’r digwyddiadau mwyaf ym mhrifddinas Cymru yn y misoedd i ddod…
Beth yn union yw’r Cant – ‘The Hundred’?
Cystadleuaeth griced 100 pêl newydd a chyffrous yw hi, a fydd yn cyfuno chwaraeon o ansawdd rhyngwladol gydag adloniant byw gwefreiddiol. Peidiwch â’i cholli!
Mae’n addo eich rhoi ar ymyl eich sedd ac mae croeso i bawb.
Felly, beth am y criced? Pwy sy’n chwarae yn y twrnament?
Mae wyth tîm newydd sbon danlli wedi’u creu ar gyfer y gystadleuaeth – timau dynion a menywod a byddan nhw’n chwarae ar sail gyfartal.
Y timau sy’n cymryd rhan yw: Birmingham Phoenix, London Spirit, Manchester Originals, Northern Superchargers, Oval Invincibles, Southern Brave, Trent Rockets a Tân Cymreig.
Bydd yr ‘Hundred’ yn cael ei chwarae ar draws y Deyrnas Unedig, ond bydd Gerddi Sophia Caerdydd yn gartref i dimau newydd y Tân Cymreig.
Beth yw’r rheolau?
Criced yw’r Cant, ond nid fel y gwelsoch chi hi o’r blaen. Bydd batiad pob tîm yn para am 100 pêl a phwy bynnag sy’n sgorio’r mwyaf o rediadau, sy’n ennill y gêm.
Ond yn hytrach na bod y bowliwr yn draddodiadol yn taflu chwe phêl mewn pelawd, bydd yr ochr sy’n maesu yn cyfnewid y ddau ben ar ôl 10 pêl. Gall pob bowliwr daflu naill ai pump neu ddeg pêl yn olynol. Capten pob tîm fydd yn penderfynu ar hynny a gall pob bowliwr daflu uchafswm o 20 pêl y gêm.
Bydd y Cant yn cael ei chwarae’n gyflym iawn a bydd pob gêm yn para dwy awr a hanner. Mae’r ddwy ochr bowlio yn cael terfyn amser strategol o hyd at ddwy funud a hanner ac mewn datblygiad newydd, gall yr hyfforddwr drafod tactegau gyda’u chwaraewyr ganol y gêm.
Bydd gan bob tîm sy’n batio 25 pêl o chwarae pwerus, pan fydd dau yn unig o’r tîm sy’n bowlio yn cael bod y tu allan i’r cylch 30 llathen.
Beth arall sy’n digwydd ar wahân i’r criced?
Bydd y Cant yn rhywbeth i’w sawru i gefnogwyr criced, ond peidiwch ag ofni os ydych chi’n newydd i’r gamp. Mae’r Cant yn addas i deuluoedd, yn gynhwysol ac yn hwyl. Bydd yn apelio cymaint at wylwyr criced rheolaidd â’r rhai sy’n ei wylio am y tro cyntaf. Yn ddelfrydol ar gyfer plant o bob oed, bydd y Cant hefyd yn cynnwys adloniant a cherddoriaeth fyw oddi ar y cae fel cydymaith delfrydol i’r criced syfrdanol.
Steffan Powell o BBC Radio 1 fydd yn llywio gemau’r Tân Cymreig a bydd y ddeuawd DJ GRL TLK cyffrous o Gaerdydd yn cynhyrfu’r dorf yng Nghaerdydd gyda’u harddull electropop enwog.
Bydd yr artist electronig Rachel K Collier o Abertawe hefyd yn perfformio yng Ngerddi Sophia ar 18 Awst.
Felly, mae timau dynion a menywod yn cymryd rhan?
Cywir. Mae gan bob un o’r wyth tîm yn y Cant, dîm i ddynion a menywod a fydd yn chwarae ar yr un lefel. Yn wir, gêm gyntaf y gystadleuaeth yw gêm rhwng timau menywod yr Oval Invincibles yn wynebu’r Manchester Originals ar 21 Gorffennaf. Bydd timau merched a dynion y Tân Cymreig yn chwarae ar yr un diwrnod mewn pedair gêm gartref yng Nghaerdydd.
Pwy yw rhai o’r sêr ymhlith y chwaraewyr y gallwn eu gweld yng Nghaerdydd?
Mae Jonny Bairstow, Meg Lanning, Kieron Pollard a Sarah Taylor yn ddim ond pedwar o’r sêr criced rhyngwladol a fydd yn chwarae i’r Tân Cymreig ac yn galw Caerdydd yn gartref fis nesaf.
Bydd Ollie Pope, Tom Banton, Sophie Luff, Beth Mooney, Liam Plunkett, Jhye Richardson, Katie George a Bryony Smith – y mae pob cefnogwr criced yn gyfarwydd â nhw – yn ymuno â nhw.
Roedd Bairstow, un o sêr Lloegr mewn gemau prawf a gemau undydd, yn nhîm y dynion a enillydd Gwpan y Byd yn 2019.
Dywedodd: “Mae’r ‘Hundred’ yn mynd i fod yn wych. Gwyddom pa mor angerddol yw cefnogwyr Cymru am eu chwaraeon a bydd yr haf hwn yn gyfle gwych i weld rhywfaint o’r angerdd hwnnw yn y criced.
“Mae gennym griw cyffrous iawn o chwaraewyr a gobeithio y gallwn gyflwyno cyfres o berfformiadau i gefnogwyr Cymru. Mae fformat newydd y Cant yn gyffrous.
“Mae’n gysyniad newydd i gricedwyr ac yn un rydyn ni’n awyddus i’w ddatblygu.”
Y timau sy’n teithio i Gaerdydd yr haf hwn yw Southern Brave, Manchester Originals, Trent Rockets a London Spirit.
Ymhlith y dynion yn y timau hynny a fydd yn cyrraedd prifddinas Cymru mae pobl fel capten gemau prawf Lloegr Joe Root a’i gyd-aelodau yn y tîm rhyngwladol Jofra Archer, Jos Buttler ac Eoin Morgan.
Ar ochr y merched, bydd capten Lloegr Heather Knight – a aeth i Brifysgol Caerdydd – ymhlith y prif chwaraewyr.
Pryd mae’n dechrau a phryd mae’r gemau’n cael eu chwarae yng Nghaerdydd?
Mae’r ‘Hundred’ yn dechrau yng Nghaerdydd ar 27 Gorffennaf pan fydd y Tân Cymreig yn herio Southern Brave. Mae cyfanswm o wyth gêm yn cael eu chwarae yng Ngerddi Sophia gyda phedair gêm i’r dynion a phedair i’r menywod.
Gemau’r Tân Cymreig yng Ngerddi Sophia Caerdydd yr haf hwn:
Dydd Mawrth, 27 Gorffennaf – y Tân Cymreig vs Southern Brave (Menywod 3pm, Dynion 6.30pm)
Dydd Sadwrn, 31 Gorffennaf – Tân Cymreig vs Manchester Originals (Menywod 11am, Dynion 2.30pm)
Dydd Gwener, 6 Awst – Tân Cymreig vs Trent Rockets (Menywod 3.30pm, Dynion, 7pm)
Dydd Mercher, 18 Awst – Tân Cymreig vs London Spirit (Merched 3pm, Dynion 6.30pm)
Sut ydw i’n prynu tocynnau a faint maen nhw’n ei gostio?
Mae mynd i wylio dau dîm y Tân Cymreig yng Nghaerdydd yr haf hwn yn fforddiadwy iawn. Mae prisiau tocynnau Adar Cynnar ar gael tan 23 Mehefin gyda phrisiau tocynnau oedolion yn dechrau o gyn lleied â £10 ac mae tocynnau iau (chwech i 15 oed) yn £5 yn unig. I brynu tocynnau, ewch i https://www.thehundred.com/tickets.
Sut ydw i’n cyrraedd Gerddi Sophia?
Mae Gerddi Sophia yn gartref i’r Tân Cymreig a Chlwb Criced Morgannwg ac yn lleoliad criced rhyngwladol sefydledig (cod post CF11 9XR). Y ffordd fwyaf poblogaidd a dymunol o gyrraedd Gerddi Sophia o Orsaf Ganolog Caerdydd yw ar droed. Mae rhan olaf y daith hamddenol 15 munud yn mynd â chi ar hyd glannau Afon Taf drwy Barc Bute a thiroedd Castell Caerdydd.
Mae parcio cyhoeddus ar gael ym maes parcio Talu ac Arddangos Gerddi Sophia.