Beth wyt ti'n edrych am?
Ynys Echni’n Ailagor i Ymwelwyr

Mae teithiau dydd yn ailddechrau ar Ynys Echni o ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf ar gwch RIB cyflym.
Bydd y ddihangfa dair awr i’r ynys yn cynnwys sgwrs groeso gan y warden; teithiau wedi eu hunan-arwain yn edrych ar hanes a bywyd gwyllt diddorol Ynys Echni; ac ymweliad â’r Gull a Leek, tafarn fwyaf ddeheuol Cymru.
Bydd cyfyngiadau Covid, fel gwisgo gorchuddion wyneb a chadw pellter cymdeithasol, ar waith er diogelwch.
I gael gwybodaeth fanwl, mwy o ddyddiadau ac i archebu lle, ewch i bayislandvoyages.co.uk
I gael gwybod mwy am yr ynys, ewch i cardiffharbour.com
CADWCH MEWN CYSYLLTIAD
Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.