Neidio i'r prif gynnwys

PETHAU BWGANLLYD I'W GWELD A’U GWNEUD YNG NGHAERDYDD Y CALAN GAEAF HWN

Mae Calan Gaeaf yng Nghaerdydd bob amser yn amser diawledig o dda – ni waeth sut y mae’n well gennych ddathlu! P’un a ydych chi’n bwriadu mynd allan yn eich gwisg ffansi gorau neu os yw’n well gennych brofiad bwyta cain tawel gyda naws iasoer, mae rhywbeth at ddant pawb!

Peidiwch ag anghofio, dim ond cipolwg bach yw’r rhestr isod o’r pethau niferus sy’n digwydd ledled y Ddinas ym mis Hydref eleni.  Edrychwch ar ein tudalen Beth sydd Ymlaen neu bori atyniadau gorau Caerdydd i weld mwy.

PLANT

CALAN GAEAF YNG NGHASTELL CAERDYDD

P’un a ydych chi’n chwilio am rywbeth i ddiddanu’r teulu yr hanner tymor hwn neu eisiau rhywbeth bwganllyd i ddathlu Calan Gaeaf, Castell Caerdydd yw’r lle i fod.

Mwynhewch yr atyniad teuluol, ‘Black Tower Tales’ sy’n dod â chyfnod cythryblus o hanes Cymru’n fyw, lle byddwch yn darganfod hanes brwydr ganoloesol yr arwr Cymreig lleol Llywelyn Bren yn erbyn Siryf gormesol Morgannwg.  Gellir prynu Black Tour Tales yn y Swyddfa Docynnau gyda thocyn Mynediad Cyffredinol.

Mae’r Sinema Danddaearol yn dychwelyd i Is-grofft atmosfferig y Castell o’r 15fed ganrif gyda chyfres arswydus o wych o’ch hoff ffilmiau iasoer. Mwynhewch rai ffilmiau teuluol andros o dda gan gynnwys Hocus Pocus, Young Frankenstein a The Goonies. Neu gall cynulleidfa hŷn ddewis o ffilmiau fel The Lost Boys a Donnie Darko.  Mae tocynnau’n costio £8.25 i oedolion a £5.25 i blant.  Archebwch ar-lein yma.

DARGANFYDDWCH RYWBETH ANHYGOEL YN TECHNIQUEST

Take a trip to Techniquest this half-term holiday and enjoy a show in the Science Theatre while you’re there. Spooky spectral science demonstrations will get you in the mood for Halloween, while there’s lots of fun to be had on the new exhibits: launch a rocket, test your strength, burn some calories, try a virtual operation, get blasted by a hurricane and create your own digital fireworks in time for Bonfire Night!

Capacity is limited to allow plenty of time to enjoy all of the exhibits, so book ahead here.

Ewch ar daith i Techniquest y gwyliau hanner tymor hwn a mwynhewch sioe yn y Theatr Wyddoniaeth tra byddwch chi yno.  Bydd arddangosiadau gwyddoniaeth sbectrol bwganllyd yn codi eich hwyliau ar gyfer Calan Gaeaf, tra bod llawer o hwyl i’w gael ar yr arddangosion newydd: lansio roced, profi eich cryfder, llosgi rhywfaint o galorïau, rhoi cynnig ar lawdriniaeth rithwir, cael eich chwythellu gan gorwynt a chreu eich tân gwyllt digidol eich hun mewn pryd ar gyfer Noson Tân Gwyllt!

Mae’r capasiti wedi’i gyfyngu i ganiatáu digonedd o amser i fwynhau’r holl arddangosion, felly archebwch ymlaen llaw yma yn www.techniquest.org.

NOSON ARSWYDUS FOOTBALL FIESTA

Mae Gwersylloedd Hanner Tymor Football Fiesta yn cynnig y cyfle delfrydol i bobl ifanc gael hwyl ac aros yn egnïol. Mae’r gwersylloedd i gyd yn digwydd yn Football Fiesta yn y Ffanbarth Pêl-droed o 9am-3pm ac maent wedi’u cynllunio i roi cyfle i blant 6-11 oed ddysgu ac ymarfer amrywiaeth o dechnegau, tra’n mynegi eu hunain mewn amgylchedd hwyliog, diogel a chymdeithasol.

Ar 30 Hydref bydd thema ‘Noson Arswydus’, bydd digon o driciau a danteithion i wefru’r plant sy’n cymryd rhan! Archebwch ar-lein yma.

OEDOLION

Mae’r Ivy Caerdydd yn gwahodd gwesteion i fynd i hwyl Calan Gaeaf gan bartneru â Horse With No Name a Monkey 47 Gin i ddatgelu dewis blasus o goctels newydd, wedi’u hysbrydoli gan y Pechodau Marwol. Bydd gwesteion yn gallu mwynhau cyfres o goctels am amser penodol, gan gynnwys Llid, sy’n cynnwys cymysgedd ffyrnig o wisgi bourbon a phupur habanero.

Ar Ddydd Sadwrn 30 Hydref, bydd Yr Ivy Caerdydd yn cynnal noson o adloniant ar thema’r Pechodau Marwol, gan gynnwys perfformiadau a setiau DJ. Cadwch eich bwrdd yma.

TEITHIAU YSBRYDION AR-LEIN SAIN FFAGAN

Mae Teithiau Ysbrydion Sain Ffagan yn ôl, ond gyda gwahaniaeth! Ymunwch â Teithiau Cymru Dywyll ar Daith Ysbrydion rithwir sy’n archwilio Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan o ongl hollol wahanol…

Profwch daith rithwir gyda mynediad unigryw i rai adeiladau hanesyddol nad ydym wedi’u harchwilio ar ôl iddi dywyllu o’r blaen.  Ymgollwch yn hanes pob adeilad wrth i ni adrodd y straeon ysbrydion sydd wedi eu casglu dros y blynyddoedd.  Ymunwch â sesiwn Cwestiynau Cyffredin fyw (drwy Zoom) gyda thîm Teithiau Tywyll Cymru, i glywed mwy am y straeon arallfydol.

28 Hydref, 7.30-8.50pm, tocynnau:  £6 + Ffioedd eventbrite.  Addas ar gyfer: 12 ac yn hŷn Prynwch eich tocyn yma.

BINGO LINGO ERCHYLL YN Y DEPO

Mae Nos Galan Gaeaf yn ddrwg-enwog fel un o’n BINGO LINGOs mwyaf y flwyddyn ddydd Gwener 29 Hydref. Nid yw cwsmeriaid byth yn eu siomi gyda phob enaid yn cyrraedd mewn gwisg ffansi. Mae’r lleoliad yn cael ei addurno’n llwyr ar gyfer Calan Gaeaf gydag actorion arswydus yn cuddio ym mhob cornel.

Paratowch eich hun ar gyfer giamocs erchyll ar y llwyfan gan gythreuliaid ein llwyfan a’n cyflwynydd gyda menagerie o wobrau arswydus ac anhygoel i’w hennill! Eleni mae dyddiad Calan Gaeaf Arbennig ychwanegol i Fyfyrwyr wedi’i ychwanegu ar gyfer dydd Iau 28 Hydref!

Paratowch eich hun am brofiad Calan Gaeaf heb ei ail, mae’n debygol y byddwch yn ei droi’n achlysur blynyddol! Mae tocynnau ar gael i’w prynu yma.

PARTI CALAN GAEAF YN NHAFARN PONTCANNA

Ar ôl i Galan Gaeaf y llynedd farw ar ei draed, mae Tafarn Pontcanna yn barod i adfywio’r noson gyda’n parti, ar 30 Hydref, o 5pm tan 11pm! Byddwn yn cynnal disgo distaw, bydd ein staff mewn gwisg ffansi a bydd gwobrau i’w hennill ar gyfer y cwsmeriaid sydd wedi gwisgo orau!

Cofiwch gadw llygad am yr ‘siots brechlyn,’ wedi’u llenwi â gwenwynau Calan Gaeaf! Bydd y Dafarn yn chwarae’r gerddoriaeth iasol, yn arswydo gydag addurniadau, ac rydych chi’n gwybod y byddwch chi yn y lle gorau i ddathlu Noswyl Calan Gaeaf. Gwelwn ni chi yn y Dafarn! Archebwch eich bwrdd ar-lein yma.

BWYTA CAIN BWGANLLYD YN THE CHAPEL 

Y Calan Gaeaf hwn ewch i The Chapel i fwynhau bwyta cain yn y bwyty crand islaw’r siandeliers. Mae’r adeilad Ffrengig-gothig yn gefndir perffaith i roi hwb i’ch penwythnos bwganllyd.

Ar 30 Hydref, bydd Rick Astley yn chwarae yn y Motorpoint a bydd The Chapel yn dathlu’r gerddoriaeth o’i gyfnod. Cadwch eich bwrdd yma.

MEISTROLI CELFYDDYDAU TYWYLL CYMYSGU MOLECIWLAIDD YN YR ALCHEMIST

Does dim lle gwell i yfed coctels bwganllyd y Calan Gaeaf hwn. Mae eu cymysgwyr yn creu pob coctel yn obsesiynol o fanwl gywir, wedi eu cyflwyno mewn cynwysyddion sydd wedi eu paratoi â naws diawledig y theatr, maen nhw’n dallu, yn hudo ac yn gosod y cynsail ar gyfer popeth a wnânt.

Mwynhewch awyrgylch tanbaid, coctels creadigol a chiniawa diawledig o flasus drwy’r dydd sydd wedi dod yn nodwedd o The Alchemist – Gweinir y Theatr. Archebwch eich bwrdd yma.