Neidio i'r prif gynnwys

HOTEL INDIGO

Mae ein 122 ystafell fwtîc hyfryd yn adlewyrchu tamaid o’r brifddinas yn eu cynllun unigryw eu hunain.

Hotel Indigo Hotel Indigo Hotel Indigo Hotel Indigo Hotel Indigo

Rydym yn estyn croeso i’r teithiwr blinedig i Hotel Indigo Caerdydd.

Yng nghalon y ddinas, gamau i ffwrdd o’r brif ardal siopa ac adloniant, cewch westy Hotel Indigo ffres a modern Caerdydd. Yng nghanol safleoedd hanesyddol pwysig ac atyniadau modern, mae ein gwesty yn yr un gymdogaeth â Chastell Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Neuadd y Ddinas a Stadiwm byd-enwog y Principality, cartref rygbi Cymru.

Mae tîm cyfeillgar a gwybodus, WiFi am ddim, ystafell ffitrwydd, cawodydd glaw, cyflyru aer a byrbrydau am ddim yn eich disgwyl! Dewiswch uwchraddio eich ystafell gyda ni i wneud yn fawr o’ch ymweliad.

Gadewch i’r dyluniadau eich ysbrydoli. Boed yn noson neu ddwy yn ystafell ‘gwnaed yng Nghymru’, ‘diwydiant’ neu ‘gerddoriaeth’, erbyn i chi adael, byddwch yn adnabod y ddinas fymryn yn well.

Ewch i’n llawr uchaf, i Stecdy, Bar a Gril Marco Pierre White, a chewch flas ar fwydlen Brydeinig glasurol gan gynnwys steciau sy’n tynnu dŵr i’r dannedd a’r coctels perffaith i’ch cyfareddu. Ewch i’n teras y tu allan i gael chwa o awyr iach a chlywed seiniau cerddoriaeth fyw yn dod o grombil y bar. Bydd ein hystafell fwyta breifat yn lle perffaith ar gyfer dathliad clos yn y ddinas.

Cyfarwyddiadau cyrraedd o Safle Bws Stryd y Castell

Ewch tuag at Heol-y-Frenhines, cerddwch ryw 0.2 milltir, trowch i’r chwith i Arcêd Dominions (gyferbyn â Boots); mae mynedfa’r gwesty y tu mewn i’r arcêd ar y dde.

Cyfarwyddiadau cyrraedd o safle bws a maes parcio Heol y Brodyr Llwydion

O Heol y Brodyr Llwydion, ewch ar hyd Maes y Brodyr Llwydion (rhwng Tiger Tiger ac adeilad mawr Tŵr Capital), mae mynedfa i Arcêd Dominions ar y dde ac mae mynedfa’r gwesty y tu mewn i’r arcêd ar y chwith.

Ffôn

029 2010 2710

E-bost

info@incardiff.com

Cyfeiriad

Arcêd Dominions, Heol Frenhines, Caerdydd CF10 2AR