Neidio i'r prif gynnwys

Mae Caerdydd yn gyrchfan arbennig i blant ac oedolion fel ei gilydd. P’un a ydych chi’n chwilio am rywbeth i’r rhai bach, neu blant ifanc a’r rhai yn eu harddegau, mae ein prifddinas yn barod i greu atgofion hanner tymor cyffrous!

Edrychwch ar ein detholiad o’r awgrymiadau gorau isod.

HWYL AC AM DDIM

LLEISIAU’R WAL GOCH

AM DDIM / Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan / Gorffen 17 Ebrill

Rhoddir yr enw Y Wal Goch i gefnogwyr ein timau pêl-droed cenedlaethol. Wedi’u gwisgo yn eu hetiau bwced a’u crysau replica, gan floeddio siantiau o’r stondinau, maen nhw’n cael eu disgrifio’n aml fel y deuddegfed chwaraewr ar y cae.

I ddathlu Cymru’n cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd FIFA, mae’r arddangosfa hon yn amlygu rhai o bobl a chymunedau’r Wal Goch. Mae ffasiwn, cerddoriaeth, hunaniaethau a gwleidyddiaeth i gyd yma, wedi’u cryfhau gan ymdeimlad o berthyn. Dyma eu stori nhw – eich stori chi – brics Y Wal Goch. Mae’n brofiad sy’n cael ei arwain gan gefnogwyr digyffelyb.

MONTGOMERY BONBON: LLWYBR DIRGELWCH YR AMGUEDDFA

AM DDIM / Amgueddfa Caerdydd / 18 – 26 Chwefror

Profwch eich sgiliau ditectif yn Amgueddfa Caerdydd fel rhan o brosiect cenedlaethol Montgomery Bonbon: Llwybr Dirgelwch yr Amgueddfa, a drefnwyd gan Kids in Museums a Walker Books. Mae’r llwybr yn dathlu rhyddhau llyfr plant newydd Montgomery Bonbon: Murder at the Museum wedi’i ysgrifennu gan y digrifwr Alasdair Beckett-King gyda darluniau gan Claire Powell. Codwch daflen weithgareddau a dewch i ddatrys posau a chael hwyl gyda’ch teulu yr hanner tymor hwn.

CLWB GOFOD

AM DDIM / Cei’r Fôr-Forwyn

Ewch ar daith o gwmpas Cysawd yr Haul yn ystod hanner tymor Chwefror Cei’r Fôr-Forwyn! Bydd yr ymwelwyr hanner tymor hwn yn cael cymryd rhan mewn llwybr lle bydd cyfle i gyfranogwyr ennill taleb £50 ar gyfer Hub Box Bae Caerdydd.

Bydd cystadleuaet liwio hefyd yn cael ei chynnal gyda chyfle i ennill dau gerdyn rhodd Cadwaladers gwerth £10. Yn ogystal â hyn, mae tri diwrnod o weithgareddau i edrych ymlaen atynt!

GWEITHGAREDDAU SY’N ADDAS I DEULUOEDD

NEIDIWCH YN DDI-RWYSTR

£12 y person / Parc Trampolinio Buzz / 6+ oed

BUZZ Open Jump yw’r sesiwn graidd sy’n rhoi mynediad i chi i gyfleusterau’r parc cyfan am awr o hwyl iach ac actif.  Mae’r cwrs offer chwyddadwy enfawr yn llawn gweithgareddau a heriau llawn hwyl.

O sleid ddisgynfa 6m i gwrs rhwystrau 50m a llawer mwy. Bydd maint y lle hwn yn eich syfrdanu. Nid parc trampolinio yn unig yw Buzz bellach – maen nhw’n cynnig llawer, llawer mwy!

SIOEAU PLANETARIWM

£2 y person / Techniquest / Amserau amrywiol – edrychwch ar wefan Techniquest

Y Kla Lab – Sut gallwch chi droi rhywbeth sy’n glir yn enfys? Ymunwch â gweithdy Rainbow Reactions i ddarganfod hyn i gyd a mwy!

Teithiau’r Sêr – Dysgwch fwy am rai cytserau cyfarwydd, y planedau, sut mae sêr yn cael eu geni a sut maen nhw’n marw.

Swigod a Chwythiadau – Archwiliwch fyd hynod a rhyfeddol swigod a chwythiadau, gydag un o chwythwyr swigod mwyaf Techniquest!

GOLFF ANTUR

Prisiau a chynigion amrywiol / Treetop Golf / Ar agor o 10am yn ystod hanner tymor

Gyda dau gwrs golff bach 18 twll dan – mae digon i ddifyrru’ch fforwyr bach. Ewch i’r afael â’r Llwybr Trofannol gyda’ch gilydd ac archwilio ein Coed Dirgel neu mentrwch i adfeilion yr Archwiliwr Hynafol.

Pa lwybr bynnag yr ydych chi’n ei ddewis, peidiwch ag anghofio ymgymryd â’r 19eg twll Bonws am gyfle i ennill rownd am ddim. Gallwch hefyd dynnu llun yn y bwth lluniau am ddim i fynd ag atgof annwyl o’ch ymweliad adref. Dewiswch pizza wedi’i wneud â llaw o Pizza Cabana, diodydd trofannol o The Thirsty Toucan a choffi wedi’i baratoi’n ffres o Gaffi Jungle Buzz.

PWLL A CHAMPFA RHYNGWLADOL CAERDYDD

Sblasiwch yn ein pwll hamdden gwych gyda 3 sleid grom, afon araf a’n Spacebowl unigryw, sy’n siŵr o roi’r bendro i chi! Hefyd mae gennym ardal draeth gyda sleidiau plant bach ac adeiledd chwarae; hwyl fawr i’r teulu i gyd!

Beth am orffen eich ymweliad trwy roi cynnig ar un o’n pizzas blasus wedi’u gwneud â llaw! Rhaid archebu ymlaen llaw; ewch draw i’r wefan heddiw i sicrhau eich lle!

 

DYSGU AM YSTLUMOD YM MHARC BUTE

Parc Bute / 21 Chwefror / Fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd

Beth ydyn ni’n ei wybod am ystlumod? Beth maen nhw’n ei fwyta?  Sut maen nhw’n symud? Ble maen nhw’n byw? Mwynhewch rai gweithgareddau celf a chrefft sy’n ymwneud ag ystlumod.

Sesiynau am 10am, 12pm a 2pm (60 munud). Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Yn addas ar gyfer plant 5+ oed

DIOGELU RHAG DEINOSORIAID

Gwrandewch, fforwyr deinosoriaid! Mae’n debyg bod ein ffrindiau â dannedd miniog wedi ymweld â Pharc Bute dros nos ac wedi gadael rhai wyau cynhanesyddol ar eu hôl! Y broblem yw bod yr wyau hyn ar fin deor ac maen nhw wedi dechrau gwingo, a dweud y lleiaf. Mae’n ymddangos eu bod wedi gwingo a rholio allan o’u nythod a gallen nhw fod unrhyw le yn nhiroedd y parc!

Allwch chi helpu ein fforwyr deinosoriaid i ddod o hyd i’r wyau a’u dychwelyd i ddiogelwch cyn iddyn nhw ddeor ar draws Caerdydd? Bydd angen gwybodaeth dda am ddeinosoriaid arnoch yn yr antur storïol WEFREIDDIOL hon.

Play Opera LIVE

In a roarsome show that is both entertaining and educational, sing, dance and clap along to some of our favourite pieces of music from stage and screen, including John Williams’s epic Jurassic Park Theme.

Get up close and personal with dinosaurs from Tony Mitton’s popular children’s book, BumpusJumpus Dinosaurumpus, featuring vivid video projections and original narration by our wonderful presenter Tom Redmond.

Don’t forget to join us from 1pm for free activities including a treasure hunt, face painting and more.

GWEFR A CHYFFRO

£60 y person / Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd / 12+ oed

Gan gynnwys troadau, troellau a phob math arall o gyffro, mae sesiwn Rafftio Dŵr Gwyn DGRhC yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n chwilio am antur ac mae’n ffordd wych o ymarfer eich sgiliau yn y dŵr! Rydym yn cynnig yr unig ffordd i Rafftio Dŵr Gwyn yn ninas Caerdydd!

Mae ein gweithgaredd Rafftio Dŵr Gwyn yn addas ar gyfer teuluoedd, partïon a grwpiau o ffrindiau fel ei gilydd!

TOUR PRINCIPALITY STADIUM

Use code – VISITCARDIFF – to get 20% discount. (Only applies to standard Principality Stadium Tours).

Visit Cardiff’s state-of-the-art Principality Stadium which features a fully retractable roof, making it one of the largest indoor arenas in the world.

An experienced tour guide will share facts on the stadium’s history of events including International Rugby Matches, 2012 Olympic Events, world class boxing, the 2017 UEFA Champions League Final and mighty rock & roll concerts.

Stadium tours include the Home and Away Dressing Rooms, Press Conference Suite, Players Tunnel and Hospitality Box – So plenty of photo opportunities along the way.

GWNEWCH GÊM FIDEO!

£5 y pen / The Arcade Vaults / 10+ oed

Wrth eich bodd yn chwarae gemau fideo? Eisiau gwneud eich gêm eich hun?

Ymunwch â’n Sesiwn Gwneud Gêm yr hanner tymor hwn, a chreu gêm gyflawn i’w chwarae a’i rhannu gyda’ch ffrindiau, mewn dim ond 90 munud.

Archebwch nawr a dechreuwch eich taith i fod yn ddylunydd gemau fideo!

SESIYNAU RAILWAY GARDENS

Am ddim / The Railway Gardens

Os nad ydych wedi bod yn barod, mae’r fenter gymdeithasol leol Green Squirrel yn cynnal llond lle o ddigwyddiadau, gweithdai a sesiynau yn eu Railway Gardens yn Sblot.

Mae’r prif ddigwyddiadau ar gyfer hanner tymor yn cynnwys Sesiwn Lliwio Ffabrig Naturiol i’r Teulu, Dydd Mawrth 21 Chwefror a’r Amgueddfa Gemau, Dydd Mercher 22 Chwefror, lle gallwch ddarganfod a chwarae gemau o’r oes a fu.

DANTEITHION BLASUS

BIG MOOSE COFFEE CO

Os ydych chi’n chwilio am le gwych i gael coffi neu ginio dros wyliau’r hanner tymor, ewch i Big Moose Coffee Co, siop goffi dielw yng nghanol Caerdydd lle byddach yn cael eich cyfarch gan y tîm mwyaf cyfeillgar o bobl.

Galwch heibio i weld y tîm am frecwast, brecinio neu ginio. Maent yn gwasanaethu ystod eang o brydau blasus, a gellir gwneud pob un ohonynt yn ddi-glwten a/neu’n figanaidd. Neu os ydych chi ond yn galw heibio am goffi,  yna mae’n bosib y bydd un o’n teisennau neu’r brownis ffres yn apelio atoch (mae hefyd opsiynau figanaidd a di-glwten ar gael).

AROS AM GYFNOD

WALES COTTAGE HOLIDAYS

Mae Wales Cottage Holidays yn cynnig dewis gwych o fythynnod gwyliau o ansawdd yng Nghaerdydd a Chymru. Porwch drwy amrywiaeth o fythynnod gwyliau addas i’r teulu a dewch o hyd i’ch dihangfa hanner tymor berffaith ar gyfer mis Chwefror yng Nghymru.

FUTURE INN

Bydd Future Inn Bae Caerdydd yn gwneud i chi deimlo’n gwbl hamddenol ac yn gartrefol. Mae’r Ystafelloedd Dau Wely yn fawr ac yn helaeth, gyda dau wely maint Brenhines, sy’n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd o hyd at bedwar gwestai. Mae nodweddion yr ystafell yn cynnwys cyflyru aer unigol a rheoli gwres, haearn a bwrdd smwddio, sychwr gwallt, cyfleusterau gwneud te a choffi, dŵr potel, teledu sgrîn fflat gyda Freeview, nwyddau ymolchi sy’n addas i figaniaid, gŵn a sliperi am ddim.

Mae buddion yn cynnwys parcio am ddim ac offer gwefru ceir trydan, Wi-Fi am ddim, a gwasanaethau cartrefol megis ein hystafell golchi dillad gwesteion, bwcedi iâ a’n peiriant iâ, y gallwch chi eu defnyddio fel y mynnwch. Archebwch yn uniongyrchol i fod yn sicr o gael y cyfraddau gorau, gyda phrisiau ystafelloedd yn dechrau o £67 y nos. Bydd plant dan 12 yn aros am ddim.

PONTCANNA INN

Get away this Half Term and head to Pontcanna Inn. With 11 boutique rooms located on the outskirts of the city, you and the family can enjoy all that Cardiff has to offer while having somewhere to rest your head away from the centre.

Nearby is Cardiff Castle, the Millenium Centre, and plenty of parks to take a stroll in, or take a boat down to the bay for the day!

During your stay, enjoy our bar and restaurant with outside area, and catch all the action of the Six Nations while you’re here!

SYMUD O LE I LE

EXPLOR CARDIFF BY BOAT

Cardiff Boat Tours ‘Princess Katharine’ is a heated 90 seat water taxi. Board at either Cardiff Bay or Bute Park (close to Cardiff Castle) and take the half hour one way trip. Then after some time ashore, get back on for the return journey. Alternatively, enjoy an hour-long tour from either boarding point. There’s fascinating commentary telling the history of the area and the sights along the way.

There is a toilet on board for passenger comfort. A great way to see the city from a different perspective.

TRAVEL BY GWR

With a GWR Family Ticket, up to two adults and four children can travel together and save on journeys Cardiff. The Family Ticket can be used by any adults, from grandparents and godparents to parents and friends – in fact, anyone travelling with up to four children.

Take the kids to Cardiff Castle for an unforgettable day uncovering 2,000 years of history, go for a sightseeing spin on the 33-metre Giant Wheel, or head to Cardiff Bay for a hands-on science experience at Techniquest, or an action-packed afternoon of exhilarating water sports.

Getting away is now even better value for money! Selected routes. Terms apply.

HOP ON THE BUS

There are plenty of things to do in and around Cardiff this half term and there’s no better way of getting to them than with Cardiff Bus!

By purchasing one of their family day tickets, you and your family can travel quickly and cost-effectively across Cardiff Bus’ comprehensive network.  Families of up to 5 can travel around Cardiff and Penarth all day for £5.50, or across their entire network for £8. Terms and conditions apply.

______________________________________________________

I gael gwybodaeth am deithio i Gaerdydd, a sut i fynd o gwmpas y Ddinas unwaith rydych chi yma, edrychwch ar ein hadran Gwybodaeth i Ymwelwyr.