Neidio i'r prif gynnwys

CYHOEDDI GŴYL NADOLIG CASTELL CAERDYDD YN Y SPIEGELTENT

22 Gorffennaf 2022

TYMOR NEWYDD O ADLONIANT BYW ANHYGOEL YN CAEL EI LANSIO YNG NGAEAF 2022

 

Ymhlith y sioeau mae’r Efail Gnau, Dymuniad Sion Corn a Castellana

25 Tachwedd 2022 – 8 Ionawr 2023

Mae tocynnau cynnar ar werth nawr! thecastle.wales

 

Mae Gŵyl Nadolig Castell Caerdydd yn atyniad adloniant newydd trawiadol sy’n cael ei lwyfannu  mewn Spiegeltent hardd ar dir Castell Caerdydd.

 

Wedi’u cynhyrchu gan gwmni digwyddiadau byw o Gaerdydd, Live Under the Stars a Jamboree Entertainment, mae Gŵyl Nadolig Castell Caerdydd yn cyflwyno tair sioe anhygoel sy’n cynnig rhywbeth i bawb. Ymhlith y sioeau mae’r Efail Gnau gan Gwmni Dawns Rubicon – y bale Nadolig gyda blas Cymreig; Dymuniad Sion Corn – antur gerddorol hudol newydd sbon i’r teulu cyfan; a Castellana – cymysgedd anhygoel o gabaret, syrcas, bwrlesg a chomedi o’r radd flaenaf.

 

Bydd y sioeau yn cael eu llwyfanu yn y Fortuna Spiegeltent addurnedig ac agos-atoch chi sydd â 570 o seddi, ar diroedd hanesyddol Castell Caerdydd, ac mae’n addo cludo cynulleidfaoedd i fyd hiraethus a hudolus.

 

Mae Gŵyl Nadolig Castell Caerdydd yn ychwanegiad arbennig i raglen bresennol Nadolig Caerdydd, sy’n cynnwys Gŵyl y Gaeaf Caerdydd, Nadolig ym Mharc Bute a Marchnad Nadolig Caerdydd. Mae wedi’i chreu a’i chynhyrchu gan Richard Perry a John Manders, y mae eu gwaith diweddaraf yn cynnwys Cyngerdd Dathlu Jiwbilî Castell Caerdydd, a chyfres cyngherddau Live Under the Stars.

 

Dywedodd Richard Perry:  “Rydym wrth ein boddau ein bod yn dod â’r profiad adloniant hudolus hwn i ychwanegu at y  ddarpariaeth ar gyfer y Nadolig sydd eisoes yn wych yn ein prifddinas, ac ni allwn aros i groesawu cynulleidfaoedd i’r Castell dros yr Ŵyl. Rydym yn falch o fod yn arddangos talent leol, cenedlaethol a rhyngwladol ac yn dathlu’r adeg wych hon o’r flwyddyn yng nghanol y ddinas gyda straeon, timau creadigol a pherfformwyr sydd wedi’u hysbrydoli’n lleol”.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  “Bydd y cyfle i brofi sioe dan do’r Spiegeltent hudolus yng Ngŵyl Nadolig Castell Caerdydd yn ychwanegiad gwych i’r Ŵyl. Bydd llwybrau goleuadau Nadolig Parc Bute, sydd wedi ennill gwobrau, hefyd dychwelyd, yn ogystal â Gŵyl y Gaeaf sy’n dal yn boblogaidd, a’r Marchnadoedd Nadolig traddodiadol, gan sicrhau mai Nadolig Caerdydd fydd yr adeg fwyaf bendigedig o’r flwyddyn.

 

Meddai John Manders:  “Rydym wedi dod â thîm gwych at ei gilydd i gyflwyno tair sioe Nadoligaidd anhygoel i’r teulu cyfan eu mwynhau.  Rydym yn edrych ymlaen at y perfformiadau hyn y gall pawb ymgolli ynddynt a gweld sut mae’r sioeau’n cydweddu â’r lleoliad unigryw hwn. Gyda pherfformiadau cyntaf sioe gerdd deuluol, perfformwyr o’r radd flaenaf yn herio rhesymeg a bale clasurol Nadoligaidd, rydym yn siŵr y bydd y digwyddiad yn hynod boblogaidd. Mae cyfle i archebu’n gynnar cyn dechrau mis Hydref felly’r cyngor yw i archebu cyn hynny i sicrhau nad ydych chi’n colli allan!”

 

Y SPIEGELTENT

Mae Spiegeltent Ewropeaidd (neu ddrychau hud) yn salon cabaret a cherddoriaeth benigamp.  Mae’n bafiliwn a ddefnyddiwyd fel neuadd ddawns deithiol, salon adloniant Bohemaidd a phabell blasu gwin yn dyddio o ddiwedd y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif. Nhw oedd canolbwynt ffeiriau ysblennydd Gwlad Belg ar un adeg.

 

Mae’r babell wedi ei hadeiladu o bren, drychau, cynfas, gwydr lliw, a brocêd melfed. Mae pob un yn unigryw gyda’i henw, ei b=phersonoliaeth, a’i arddull ei hun.  Dim ond llond llaw o’r pebyll arbennig a hanesyddol  hyn sydd ar ôl yn y byd ac mae’r Fortuna, sy’n eiddo i gwmni o’r Iseldiroedd, Van Rosmalen, yn un o’r harddaf, ac wedi croesawu rhai o berfformwyr a cherddorion mwyaf blaenllaw’r byd.

 

Y SIOEAU

 

Cwmni Dawns Rubicon yn cyflwyno’r Efail Gnau

 

Y Bale Nadolig gyda naws Gymreig

 

Mae Cwmni Dawns Rubicon yn cyflwyno’i fale cyfoes llawn ar sail yr Efail Gnau, sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel – yr addasiad Cymreig cyntaf o’i fath, gyda chast cyfoethog o gymeriadau adnabyddus o Gymru, gan gynnwys Yncl Idris, Bop Sheila a Bopa Linda a’r Fari Lwyd!

 

Mae’r cynhyrchiad hefyd yn cynnwys sioe arbennig y cwmni, Snowflakes, fel y’i gwelwyd yn nathliadau Jiwbilî Platinwm Caerdydd ac sy’n cynnwys sioe unigryw o ddawnsio, powlio, syrthio o uchder a thaflu peli eira gan y coreograffydd Jamiel Laurence. Gwahoddir cynulleidfaoedd am daith hudolus drwy Nadolig y Teulu William. Wrth inni gael ein tywys i fyd breuddwydiol ein prif gymeriad, Carys, bydd ei Hewythr Idris yn creu  brwydr, storm eira a’i sioe adloniant ei hun, Sioe Yncl Idris!

 

Mae’n agor ar 25 Tachwedd 2022 am 5 perfformiad yn unig

 

Castellana

 

Mae sioe newydd anhygoel Castellana yn gyfuniad gwych o gabaret, bwrlesg a chomedi gyda blas o ddrygioni, gyda cherddoriaeth anthemig a stori wedi’i gosod mewn byd cyfriniol hudolus Cymreig sy’n llawn dirgelwch.  Bydd perfformwyr o’r radd flaenaf yn eich rhyfeddu, hudo, drysu a difyrru wrth iddynt gyflwyno’r noson allan orau bosib dros gyfnod y Nadolig  yn lleoliad agos-atoch y Fortuna Spiegeltent.

 

Bydd swynwyr direidus, angylion tanllyd a demoniaid drwg Castellana yn hudo ac yn syfrdanu cynulleidfaoedd wrth iddynt hedfan oddi fry a newid ffurf a siâp yn gelfydd.  Wrth i’r hud a’r gerddoriaeth feddiannu eich synhwyrau, cewch gyfle i glywed y straeon a gweld y trawsnewidiadau o’r bobl a ddaeth o’ch blaen.  Mae unrhyw beth yn bosibl i’r rhai sy’n meiddio gadael eu bywydau bob dydd ar ôl a chamu i’r arall-fyd oesol, peryglus hwn o wyrthiau a rhyfeddodau.

 

Bydd Premiere Byd Castellana ar 1 Rhagfyr 2022 a bydd yn para tan 8 Ionawr 2023. Mae’r sioe yn addas i rai 16 oed a hŷn.

 

Dymuniad Siôn Corn: Sioe gerdd newydd hudolus

 

“Ar noson oer o aeaf wrth iddi wawrio, fe ddechreuodd fwrw eira… a ganwyd y Bluen Eira…”

Mae Pluen Eira y pwca hudol mewn cyfyng gyngor.  Mae sled Siôn Corn wedi chwalu ac mae o ar goll!

 

A fyddwch chi’n gallu helpu i ddod o hyd i Siôn Corn?

 

All Pluen y Pwca greu cynllun i gael Siôn Corn adref mewn pryd ac achub y Nadolig?

 

Ydy’r ateb yn y Jariau Dymuniad Hudol? Ydych chi wir yn Credu?

 

Mae’r antur gerddorol deuluol hon sy’n cynhesu’r galon, wedi’i chyfoethogi â chaneuon gwreiddiol, straeon y gallwch ymgolli ynddynt a hud y syrcas yn sicr o adael y teulu cyfan yn byrlymu â llawenydd a hapusrwydd y Nadolig.

 

Mae gan Dymuniad Sion Corn ei Bremière Byd ar 2 Rhagfyr, a bydd y sioe yn para tan 24 Rhagfyr yn unig.  Mae’r sioe yn addas i blant 3+ oed

 

 

TOCYNNAU

 

Bydd tocynnau a gwybodaeth am yr Efail Gnau, Castellana a Dymuniad Sion Corn ar gael ar wefan Gŵyl Nadolig Castell Caerdydd drwy www.thecastle.wales

 

Mae tocynnau cynnar ar gael tan ddechrau Hydref ac yn dechrau am ddim ond £7 i blant ar gyfer Dymuniad Sion Corn, £23 ar gyfer Castellana a £21 ar gyfer yr Efail Gnau.  Mae costau archebu’n daladwy

 

Gellir lawrlwytho delweddau a hysbyseb ar gyfer Dymuniad Sion Corn yma (ychwanegwch Google drive)

 

Mae’r lleoliad yn hygyrch i gadeiriau olwyn.  Anfonwch neges i’r tîm gydag unrhyw ofynion penodol.

 

DIWEDD

 

 

Gwybodaeth i’r Wasg

 

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys tocynnau adolygu i’r wasg, cysylltwch â:

 

Elin Rees, elinreescomms@gmail.com / 07917 308329

 

Nodiadau i Olygyddion

 

Busnes digwyddiadau o Gaerdydd yw Live Under the Stars sy’n arbenigo mewn cyflwyno adloniant byw mewn lleoliadau unigryw a thrawiadol.

 

Y nhw oedd y cwmni cyntaf i gyflwyno cerddoriaeth fyw yn yr awyr agored yng Nghaerdydd yn dilyn cyfnod clo Covid, ac yn fwyaf diweddar fe gynhyrchon nhw Gyngerdd Jiwbilî’r Frenhines yng Nghastell Caerdydd a fynychwyd gan Ddug a Duges Caergrawnt.

 

Maent yn torri tir newydd adeg y Nadolig eleni drwy gynhyrchu sioeau i’r teulu i gyd mewn Spiegeltent hudolus yng Nghastell Caerdydd.

 

 

 

Mae Jamboree Entertainment yn gwmni teuluol o Gaerefrog, gyda 30 mlynedd o brofiad mewn cynhyrchu adloniant a digwyddiadau byw ledled y byd.

 

Nhw sy’n cynhyrchu llawr sglefrio a ffair Gŵyl y Gaeaf Swydd Efrog yn y York Designer Outlet sydd wedi ennill gwobrau, Ffair Wanwyn a Gŵyl Fwyd Caerefrog a’r Yorktoberfest ar Gae Ras Caerefrog; y Great Ryedale Maze yn Sherburn; yn ogystal â’r Minster Village yn yr haf a’r gaeaf yng nghanol Caerefrog y tu allan i’r Gadeirlan.

 

Mae cynyrchiadau cyngerdd diweddar yn cynnwys A Country Night in Nashville yn Neuadd Albert, cyfres gyngherddau’r Sounds in the Grounds mewn plastai, a thymor o gyngherddau Abba Mania yn Theatr Shaftsbury yn y West End.

 

Eleni mae Jamboree Entertainment yn gweithio gyda chyn-gyfarwyddwr artistig y York Theatre Royal, Damian Cruden, i greu’r sioe gabaret newydd sbon Castellana fel rhan o Ŵyl Nadolig Castell Caerdydd.