Neidio i'r prif gynnwys

Fel mae’r enw’n awgrymu, mae Glan-yr-Afon yn rhedeg ochr yn ochr ag Afon hardd Taf gyda golygfeydd gwych ar draws y dŵr i Stadiwm Principality a dim ond ychydig funudau o waith cerdded sydd i Barc Bute. Mae’n ganddo ysbryd cymunedol sy’n nodweddiadol o ardal sydd lawer ymhellach i ffwrdd o Ganol y Ddinas. Yma ceir marchnadoedd bwyd anhygoel a bwyd Asiaidd.

Dim ond tafliad carreg i ffwrdd mae Grangetown. Mae hon yn ardal nodweddiadol o ganol dinas Caerdydd, ac mae’n ardal sy’n datblygu ac yn amrywiol. Mae pobl Grangetown yn hynod falch o’u cymuned brysur. Gall ymdeimlad o gymuned fod yn brin mewn prifddinas, ond mae gan Grangetown ddigonedd.  Mae hon yn ardal hardd gyda thai teras Fictoraidd, mannau gwyrdd, a digon o dafarndai da i gwrdd â ffrindiau ynddynt.

Cofiwch – dim ond detholiad bach o’r hyn sydd ar gael yn y gymdogaeth yw hyn!

SUT I GYRRAEDD GLAN-YR-AFON

Ar droed: Mae’n bosib cerdded i Lan-yr-afon o Ganol y Ddinas mewn cwta 20 munud. Ewch ar hyd Stryd y Castell, dros y bont a chyn bo hir fe welwch Taffs Mead Embankment o’ch blaen. Mae Glan-yr-afon yn gymdogaeth gymharol fach ac mae modd ei harchwilio ar droed.

Beic: Reidiwch eich Nextbike i’r gymdogaeth hon, yna ei adael ar Fitzhamon Embankment (8345).

Trên: Yr orsaf drenau agosaf yw Caerdydd Canolog, tua 15 munud i ffwrdd ar droed.

Bws: Mae llawer o lwybrau Bws Caerdydd yn teithio drwy Lan-yr-afon. Un o’r rhain yw bws rhif 8, sy’n ymadael o Lôn Stryd Tudor ac mewn fawr o dro byddwch ond ychydig funudau o Nos Da a Marchnad Fwyd Glan-yr-afon.

Car:  Mae’r rhan fwyaf o fannau parcio yng Nglan-yr-afon  wedi’u neilltuo i breswylwyr. Mae mannau parcio talu ac arddangos ar gael.

SUT I GYRRAEDD GRANGETOWN

Ar droed: Mae’n bosib cerdded i Grangetown o Ganol y Ddinas mewn 20 munud. Ewch dros y bont ac yn eich blaen ar hyd Heol Penarth nes i chi gyrraedd Grangetown.

Beic: Reidiwch eich Nextbike i’r gymdogaeth hon, yna ei adael y tu allan i adeilad Tesco Bach (8365).

Trên: Mae gorsaf drenau Caerdydd Canolog 10 munud i ffwrdd ac mae gan y gymdogaeth ei gorsaf drenau Grangetown ei hun.

Bws: Daliwch fws rhif 8 Bws Caerdydd yn Heol y Porth a gadewch y bws ar y Rhodfa Olympaidd. Mae gan Grangetown hefyd ei Gorsaf Drenau ei hun (Clive Street, CF11 7JB), gallwch deithio o Ganol y Ddinas i’r orsaf mewn 5 munud.

Car: Mae’r rhan fwyaf o fannau parcio yn Grangetown wedi’u neilltuo i breswylwyr.  Mae mannau parcio talu ac arddangos ar gael.

DO YOU HAVE A RECOMMENDATION?

Let us know!

HOFFECH CHI GYMERADWYO RHYWLE?

It’s time to live like a local. Each area of the city has its own unique quality.