Neidio i'r prif gynnwys

Rydym wedi ymuno â phartneriaid Disney’s Aladdin ac Future Inns Hotel i roi i’r enillydd a’i westai arhosiad Nadoligaidd cyffrous dros nos gan gynnwys sioe brynhawn theatrig, llety dros nos a chinio ym Mae hyfryd Caerdydd.

Sicrhewch eich bod ar gael i hawlio’r wobr ar 7 ac 8 Ionawr 2024 cyn mynd i mewn.

BETH GALLECH CHI EI ENNILL?

ENNILL TOCYNNAU I WELD ALADDIN DISNEY YNG NGHANOLFAN MILENIWM CYMRU Y NADOLIG HWN

Dihangwch i fyd newydd a phrofi’r digwyddiad theatraidd arbennig hwn y mae 14 miliwn o bobl ledled y byd eisoes wedi’i weld. Mae’r cynhyrchiad hwyliog hwn, sy’n cynnwys y gerddoriaeth eiconig gan Alan Menken, Howard Ashman a Tim Rice, yn llawn hud bythgofiadwy, comedi a golygfeydd anhygoel! Gydag effeithiau arbennig rhyfeddol, dros 350 o wisgoedd prydferth a cherddorfa fyw a chast ardderchog, mae Aladdin yn cynnwys yr holl ganeuon o’r ffilm glasurol a enillodd wobrau Academy, gan gynnwys Friend Like Me, Arabian Nights ac A Whole New World. Mae Aladdin Disney yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru ar 7 Rhagfyr.

ARHOSIAD DROS NOS YN FUTURE INNS, BAE CAERDYDD

Mwynhewch gysur modern yn Future Inns, yng nghanol y ddinas Gymreig fywiog hon. Yn ymfalchïo mewn dylunio ac amwynderau cyfoes, mae ein gwesty yn cynnig cyfuniad di-dor o arddull a sylwedd. P'un a ydych chi'n teithio ar gyfer busnes neu hamdden, mae ein hystafelloedd eang yn cynnig encil croesawgar. Gyda lleoliad gwych ger atyniadau poblogaidd fel Stadiwm y Mileniwm a Bae Caerdydd, Future Inn Caerdydd yw'r lleoliad perffaith ar gyfer archwilio diwylliant cyfoethog ac egni deinamig y ddinas. Cewch frecwast ym Mwyty Thomas, lle mae coginio penigamp wedi’i wneud o gynhwysion o ffynonellau lleol yn aros amdanoch.

ARHOSIAD DROS NOS YN FUTURE INNS, BAE CAERDYDD

Mwynhewch gysur modern yn Future Inns, yng nghanol y ddinas Gymreig fywiog hon. Yn ymfalchïo mewn dylunio ac amwynderau cyfoes, mae ein gwesty yn cynnig cyfuniad di-dor o arddull a sylwedd. P'un a ydych chi'n teithio ar gyfer busnes neu hamdden, mae ein hystafelloedd eang yn cynnig encil croesawgar. Gyda lleoliad gwych ger atyniadau poblogaidd fel Stadiwm y Mileniwm a Bae Caerdydd, Future Inn Caerdydd yw'r lleoliad perffaith ar gyfer archwilio diwylliant cyfoethog ac egni deinamig y ddinas. Cewch frecwast ym Mwyty Thomas, lle mae coginio penigamp wedi’i wneud o gynhwysion o ffynonellau lleol yn aros amdanoch.


 

TELERAU AC AMODAU

CROESO CAERDYDD
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn i gymryd rhan yn y raffl.
  • Rhaid hawlio’r gwobrau hyn ar 8 a 9 Ionawr 2024 yn unol â’r telerau ac amodau isod, ac ni ellir eu cyfnewid na’u trosglwyddo.
  • Bydd y raffl yn cau am hanner nos ar 19 Rhagfyr 2024 a byddwn yn cysylltu â’r enillydd dros y ffôn. Os na fydd y wobr yn cael ei hawlio o fewn 48 awr, bydd Croeso Caerdydd yn dewis enillydd arall o’r raffl.
  • Mae Croeso Caerdydd yn cadw’r hawl i newid y wobr i wobr o’r un gwerth neu werth mwy ar unrhyw adeg.
  • Ni ellir hawlio arian neu wobrau eraill yn lle’r gwobrau hyn.
  • Nid yw teithio i Gaerdydd ac yn ystod yr arhosiad wedi’i gynnwys.
  • Mae’r raffl yn cael ei chynnal gan Croeso Caerdydd
  • Wrth gymryd rhan yn y raffl, rydych yn cadarnhau eich bod yn gymwys i wneud hynny ac yn gymwys i hawlio unrhyw wobr y gallech ei hennill.
  • Caniateir uchafswm o un cais fesul unigolyn.
  • Mae’r raffl yn rhad ac am ddim i gymryd rhan ynddi.
  • Ni fydd Croeso Caerdydd yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw fanylion cyswllt sydd wedi’u rhoi yn anghywir.
  • Rydych yn cydsynio y caiff Croeso Caerdydd ddefnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych wrth gymryd rhan yn y raffl at ddibenion gweinyddu’r raffl.
  • Nid yw Croeso Caerdydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod, colled, anaf neu siom a ddioddefir gan ymgeiswyr o ganlyniad i naill ai gymryd rhan yn y raffl neu drwy ddewis gwobr.
  • Ystyrir y bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y raffl wedi derbyn y telerau ac amodau hyn.
FUTURE INNS CAERDYDD
  • Mae’r raffl yn agored i breswylwyr y DU sy’n 18 oed neu’n hŷn, ac eithrio gweithwyr Future Inns, eu teulu agos, neu unrhyw berson neu gwmni sy’n gysylltiedig â’r raffl.
  • Rhaid archebu’r wobr ymlaen llaw, ac nid oes modd ei throsglwyddo na’i chyfnewid am arian.
  • Rydym yn cadw’r hawl i amnewid gwobr o werth cyfartal neu fwy ar unrhyw adeg. Ni fydd costau ychwanegol, gan gynnwys teithio i’r gwesty ac oddi yno, bwyd a diodydd, yn cael eu talu oni nodir hynny.
ALADDIN DISNEY
  • Mae pâr o docynnau yn ddilys i weld Aladdin Disney ddydd Sul 7 Ionawr 2024 perfformiad 6pm yn unig ac nid yw’n cynnwys teithio, cwrdd â’r cast na thebyg.
  • Mae’r holl archebion yn derfynol.
  • Nid oes modd cael arian neu wobr arall yn ei le.
  • Ni ellir trosglwyddo’r wobr hon, ei dychwelyd, ei had-dalu na’i chyfnewid.
  • Gall prisiau, dyddiadau, amseroedd a chast newid heb rybudd.
  • Ni fydd plant o dan 3 oed yn cael eu derbyn i’r theatr.
  • Rhaid i bob person 16 oed neu iau fod yng nghwmni oedolyn ac ni chaiff eistedd ar ei ben ei hun yn yr awditoriwm.