Treuliodd Dale a Darren o Stand Up Paddle UK ychydig ddyddiau yn archwilio glannau Caerdydd gyda’u byrddau padlo, yn ogystal ag aros yn un o westai mwyaf crand y ddinas a darganfod popeth sydd gan dir sych Bae Caerdydd i’w gynnig!

Cyrhaeddodd dydd Gwener ac roeddwn i a Darren yn barod am antur Padlfyrddio arall. Roedd Paldfyrddau ac offer lond y car a bant â ni – y ddau ohonom yn cychwyn o wahanol leoliadau.

Roedden ni am roi cynnig ar Gaerdydd ac roedd y ffaith bod cyfleoedd niferus i fwynhau chwaraeon dŵr yno er ei bod yn ddinas.  Mae DGRhC, canolfan dŵr gwyn Caerdydd yn y ddinas, ac yma gallwch badlo ar yr afon leol neu roi cynnig ar badlfyrddio ar y lagŵn, rafftio dŵr gwyn, a gweithgareddau amrywiol eraill yn seiliedig ar ddŵr. Mae ganddynt hyd yn oed beiriant syrffio o’r enw Ton Dan Do.

Gyda fy nheulu gadewais Nottingham am 4pm ac roedd y daith yn hwylus iawn, yn gyrru i Fae Caerdydd a chyrraedd gwesty Voco Dewi Sant Caerdydd tua 7pm. Roedd Darren yn dod o Swydd Bedford felly roedd awr ychwanegol o deithio iddo fe.

Wrth gyrraedd y Gwesty roedd hi’n amlwg pam mae’n westy 5*.  Roedd y lobi’n drawiadol iawn ac roedd y lletygarwch yn wych.  Gan ein bod wedi teithio yn y car fe wnaethon ni adael ein hoffer ynddo, ond rwy’n siŵr y byddai’r gwesty wedi eu storio pe bai angen.

Gan fod Darren yn cyrraedd yn hwyrach yn y dydd, aethon ni am dro byr i Gei’r Fôr-forwyn, yn agos iawn i’r gwesty, lle’r oedd llawer o fwytai a barau gyda golygfeydd gwych dros y dŵr. Fe grwydron ni ychydig a mynd ar fersiwn Caerdydd o’r Olwyn Fawr (mae yno yn ystod misoedd yr haf), gan fwynhau golygfeydd ysblennydd dros y Bae yn ystod y machlud! Yna tamaid cyflym i’w fwyta ac yn ôl i’r gwesty am noson dda o gwsg. Cyrhaeddodd Darren ychydig yn hwyrach, ond cafodd ei gofrestru a’i dderbyn i’r gwesty’n rhwydd iawn!

Roedd yr ystafelloedd yn Voco yn anhygoel, roedd gan y ddwy  olygfeydd eang iawn dros y bae – ac am olygfeydd anhygoel!  Fore trannoeth, ddydd Sadwrn, cawsom frecwast poeth a brecwast cyfandirol, gyda phellter cymdeithasol wedi ei reoli’n dda gan staff hynod groesawgar. Roedden nhw’n wych gyda fy merch ac fe wnaethon nhw siocled poeth yn arbennig iddi hi.

Ar ôl brecwast, aethon ni draw i gofrestru yn DGRhC.  Roedd yn eithaf agos i’n gwesty, 5 munud mewn car. Gwnaethon ni baratoi ein byrddau yn y maes parcio ac yna lawr i’r dŵr â ni. Os ydych chi eisiau padlo ar yr afon mae taliad bach o £5 ac mae angen mewngofnodi yn y dderbynfa, felly dyna wnaethon ni. Ein cynllun oedd mynd i fyny Afon Elái am ryw 2 filltir gan fod y tywydd braidd yn amheus ac roedd gennym gynlluniau prynhawn gyda’n partneriaid. Fe wnaethon ni newid yn y maes parcio, ond mae cyfleusterau newid a thoiledau ar gael yn y ganolfan.

Gwnaethon ni gario ein byrddau drwy’r gatiau ochr ac i lawr ambell ris i’r pontŵn yn hawdd.  Roedd yn braf iawn cael lansio yn y marina. Wrth fynd i’r dde, roedd yr afon wedi’i diogelu’n dda rhag gwyntoedd felly roedd yn teimlo fel padliad hawdd. Mae’n ddechrau braf, yn mynd drwy’r cychod yn y marina a’r adeiladau uchel yn gefnlen.  Roedd yr Afon yn wag felly roedd yn hawdd iawn i ni. Gwnaethon ni ychydig dros 4 milltir mewn 1awr 20 munud. Ar ôl i ni adael y dŵr, dyma bacio’r offer yn ôl i’r car a gyrru’n ôl i’n gwesty.

Pan oeddwn i’n padlo, aeth fy ngwraig a’n merch i Techniquest, atyniad gwyddoniaeth ym Mae Caerdydd ac fe chwaraeon nhw am oriau yno tan i ni ddychwelyd. Un peth sy’n dda am badlo yn y ddinas yw bod digon i weddill y teulu ei wneud.  Fe lwyddon ni i archebu lle ym mhwll nofio a sba’r gwesty gyda’r nos a nofio a chael sawna cyn swper.

Aeth Darren a’i bartner i siopa.  Roedd canolfan siopa Dewi Sant Dewi Sant yn fywiog, yn brysur ac yn llawn siopau.. Fel y byddech yn ei ddisgwyl! Roedd digonedd o barcio a digon o opsiynau ar gyfer cinio.

Awgrym: Mae Darren yn argymell bwyty Yakatori1 yng Nghei’r Fôr-forwyn… “Ymhlith y Sushi gorau dwi erioed wedi ei gael”.

Ddydd Sul, fe wnaethon ni fwynhau brecwast gwych arall ac ailwefru ein batris cyn cyfarfod yng Nghanolfan Hamdden Trem y Môr. £5 i gael mynediad i’r afon fesul bwrdd, parcio am ddim a mynediad hawdd, ddim yn ddrwg o gwbl. Cwrddon ni am ambell badlwr lleol a bant â ni i fyny Afon Taf. Mae’r llwybr hwn yn ardderchog, yn enwedig i’r rhai sy’n caru stadiymau.  Fe badlon ni heibio i Stadiwm Principality, roedd y golygfeydd o’r dŵr yn cŵl iawn. Cefnlen wahanol iawn i lwybrau padlo eraill heb os!

Mae’r afon yn eang iawn ar waelod Bae Caerdydd, yn culhau ac yn mynd yn eithaf bas ar ôl i chi gyrraedd Castell Caerdydd. Gwnaethon ni lwybr 5.5 milltir mewn 2 awr ac 20 munud. Gwyliwch am y cychod sy’n cludo teithwyr i fyny ac i lawr afon Taf – maen nhw’n gadael eu hôl ar y dŵr!!

Ychydig cyn dod i ffwrdd, fe wnaethom hefyd badlo allan i’r Bae i weld y golygfeydd dros y gwesty a’r cychod hwylio mawr. Roedd y dŵr yma yn llonydd iawn ac yn wahanol iawn i badl afon. Mae’n werth sicrhau eich bod yn deall y bwiau i wneud yn siŵr eich bod yn padlo’n ddiogel.

Ar ôl y padlo aeth pawb i wahanol gyfeiriadau.  Dechreuodd Darren ar ei siwrnai adref, ac es i a fy nheulu i Gastell Caerdydd – atyniad gwych arall yn y ddinas.

Os ydych chi’n chwilio am daith i rywle gwahanol ac am rhoi cynnig ar chwaraeon dŵr hawdd mewn dinas, rydym yn bendant yn argymell ychwanegu Caerdydd at eich rhestr!