Neidio i'r prif gynnwys

Yn ogystal â bod yn gyrchfan o safon ryngwladol ei hun, mae Caerdydd yn fan cychwyn perffaith i gael antur Gymreig ehangach.

Gyda thaith o’r brifddinas i ben mwyaf gogleddol Ynys Môn yn cymryd llai na phum awr, does dim rhaid teithio’n rhy bell i gael blas ar Gymru. Ac er ei bod yn wlad gymharol fach, mae ynddi dri Pharc Cenedlaethol gogoneddus, pum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, mwy na 600 o gestyll hynafol, mynydd uchaf Prydain ac eithrio’r Alban a 870 milltir o lwybr arfordirol trawiadol. Ychwanegwch fwyd a diod hyfryd a dewisiadau llety sy’n amrywio o dai yn y coed a thipis i wely a brecwast bwtîc a gwestai plastai gwledig, a dyna i chi gynhwysion taith fythgofiadwy!

Ewch Allan

O ran yr awyr agored, chewch chi ddim llawer gwell na Chymru. Dim ond munudau o Gaerdydd brysur, cewch eich trochi mewn golygfeydd arfordirol godidog a chefn gwlad sy’n frith gan warchodfeydd natur, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol. Ym Mharc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog (sydd lai nag awr o Gaerdydd) cewch fynyddoedd lliw mwsogl ar draws y gorwel mewn tonnau mawr gwyrddion a rhaeadrau byrlymus Bror Sgydau. Ewch rywfaint ymhellach i ddarganfod cildraethau cudd a thraethau tywod meddal yn Arfordir Sir Benfro (unig Barc Cenedlaethol arfordirol y DU) neu ewch tua’r gogledd i weld copaon uchel Parc Cenedlaethol Eryri.

Anturiaethau a Gweithgareddau

Gyda’r fath gyfoeth o asedau naturiol, nid yw’n syndod bod Cymru wedi dod yn lle amlwg ar gyfer gweithgareddau antur ar dir, dŵr a hyd yn oed yn yr awyr. Reidiwch y tonnau yn Llangennith, Mecca’r syrffwyr, ar Benrhyn Gŵyr, teimlwch yr awel gyda gwers syrffio gwynt gyda Colwyn Bay Watersports neu beth am fod yn arwr arforgampau yn Sir Benfro (man geni’r gweithgaredd gwlyb a gwych hwn!) 

Ar gyfer anturiaethau dwy olwyn, tarwch y traciau yng Nghoed-y-Brenin (y ganolfan llwybrau beicio mynydd bwrpasol gyntaf yn y DU) neu BikePark Wales ym Merthyr Tudful gerllaw, dyma i chi ddau yn unig o lu o brofiadau lawr allt yng Nghymru ar gyfer yr helwyr heriau.

Mae yna hefyd antur na chewch chi ond yng Nghymru mewn lleoliadau unigryw fel ZipWorld, lle gallwch hedfan ar hyd gwifren wib gyflymaf Ewrop, bownsio ar drampolinau drwy ogofâu chwarel tanddaearol enfawr a theithio mewn chartiau cyflym iawn drwy hen chwareli llechi. Neu ewch i Adventure Parc Snowdonia ar gyfer ogofa dan do a syrffio mewndirol ar lagŵn enfawr lle mae tonnau perffaith yn cyrraedd fel cloc. Pan ddaw’n fater o wefr a phefr yng Nghymru, eich dychymyg chi ydy’r unig gyfyngiad. Ewch i’r Wefan Croeso Cymru am fwy o syniadau llawn antur.

Dysgu am Ddiwylliant a Threftadaeth Cymru

Mae hanes a threftadaeth ym mhobman yng Nghymru. Mae mwy na 600 o gestyll ar hyd y tir – tua un i bob 10 milltir sgwâr. Maent yn amrywio o adfeilion rhamantus fel Castell y Bere unig yng Ngwynedd i gaerau cadarn fel triawd Safle Treftadaeth y Byd UNESCO: Biwmares, Conwy a Harlech yng ngogledd Cymru a Chastell Caerffili, ychydig y tu allan i Gaerdydd ail gastell mwyaf yn y DU ar ôl castell Brenhines Lloegr yn Windsor.

Gallwch ymchwilio treftadaeth ddiwydiannol fwy diweddar drwy roi het galed ar eich pen a mynd ar daith yn ddwfn dan y ddaear i hen byllau do, du fel bol buwch ym Mhwll Mawr, Amgueddfa Lofaol Cymru, dysgwch am hanes llechi yn Amgueddfa Lechi Cymru a gweld gwehyddion wrth eu gwaith yn Amgueddfa Wlân Cymru, dim ond ychydig o’r atyniadau hanesyddol sy’n brofiadau cyflawn a gewch yma yng Nghymru.

Mae hefyd raglen lawn o ddigwyddiadau diwylliannol sy’n digwydd drwy gydol y flwyddyn. Dysgwch am ein hiaith unigryw drwy farddoniaeth, stori a chân yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mwynhewch rywfaint o flas Cymru yng Ngŵyl Fwyd y Fenni, ymgollwch mewn llyfr da yng Ngŵyl Lenyddol y Gelli a gweld artistiaid o bob cwr o’r byd yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd.

Ffordd Cymru

Os yw’r opsiynau’n ymddangos yn llethol, beth am fynd ar drywydd Ffordd Cymru am ychydig o ysbrydoliaeth? Mae’r teulu hwn o dri llwybr teithio cenedlaethol sy’n croesi’r wlad ac yn mynd drwy rai o’n tirweddau mwyaf trawiadol. Yn olrhain llwybr ar hyd esgeiriau gwyllt a mynyddig Cymru yr holl ffordd i Landudno, yn ddigon cyfleus, mae Ffordd Cambria yn cychwyn yma yng Nghaerdydd. Mae hefyd Ffordd y Gogledd, sy’n dilyn hen lwybr masnach o’r ffin â Lloegr i ben gorllewinol Ynys Môn, a Ffordd yr Arfordir sy’n mynd ar hyd arfordir eang Bae Ceredigion o Sir Benfro yn y de i benrhyn garw Llŷn yn y gogledd. Er y cewch doreth o bethau i’w gweld a’u gwneud ar hyd pob un o’r tair ffordd, mae yna hefyd gyfleoedd di-rif i chi fentro oddi ar y prif lwybr a mynd ar eich hynt eich hun.


Cofiwch rannu eich taith gyda Croeso Cymru gan ddefnyddio #FyNghymru ar wefannau cyfryngau cymdeithasol Croeso Cymru:

Twitter @visitwales      Facebook @visitwales       Instagram @visitwales