Gŵyl Aberdâr

Dyddiad(au)

23 Mai 2026

Amseroedd

11:00 - 17:00

Lleoliad

Parc Aberdâr, Aberdâr, CF44 8HN

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Ymunwch â ni am ddiwrnod bythgofiadwy i’r teulu wrth i’r ŵyl ddychwelyd i Barc Aberdâr! Bydd yn ddiwrnod llawn hwyl a chwerthin wrth i chi wibio o amgylch y ffair hwyl, profi’r awyrgylch, ymweld â’r stondinau a mwynhau’r adloniant am ddim fydd ar gael. Bydd rhai o artistiaid teyrnged fwyaf blaenllaw’r DU yn ymddangos ar ein llwyfan, peidiwch â cholli’r cyfle i’w gweld!

Beth sy’ ‘mlaen:
  • Sioe bypedau ddwyieithog Martyn Geraint
  • Reidiau i’r plant a thrên tir
  • Modelwr balwnau
  • Sioe adloniant Chunkie Russell
  •  Perfformiadau gan grwpiau dawns lleol
  • Stondinau crefft, bwyd a gwybodaeth
  • Yn ogystal â sioeau teyrnged gwych gan gynnwys Bruno Mars, Taylor Swift, Harry Styles a K-Pop!
  • Bwyd stryd a bariau dros dro ar gael trwy gydol y diwrnod.

Mynediad am ddim!

Cyfeillgar i gŵn

Dewch â’r teulu cyfan i fwynhau’r diwrnod!