Neidio i'r prif gynnwys

A Terrible Show for Terrible People

Dyddiad(au)

27 Meh 2024

Amseroedd

20:30 - 22:30

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Sioe glown gorfforol a distaw yw A Terrible Show for Terrible People gydag un perfformiwr a dim ond dau air llafar.

Mae’n addas ar gyfer pyrfyrts, ffeministiaid a’ch mam (nid ar wahân). Mae fel Mr Bean petai e’n fenyw rhywiol. Disgrifiodd Fest Magazine y sioe fel “Benny Hill meets surprisingly friendly sex dungeon.” A chyhoeddodd un aelod o’r gynulleidfa, “Well, that was a fetish I didn’t know I had.”

Gwerthodd A Terrible Show allan bob nos yn ystod ei rhediad o 23 o sioeau yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2023. Gwnaeth hefyd ennill gwobrau ‘Fringiest Show’ yn Orlando Fringe Winter Mini-Fest 2023, ‘Best Comedy’ yn Hollywood Fringe Festival 2022 a ‘Craziest Solo Show’ yn Crazy Woke Asians Solo Performance Festival 2019.