Beth wyt ti'n edrych am?
Aisha Kigs | Fire Hazard EP Launch
Dyddiad(au)
19 Ebr 2024
Amseroedd
20:30 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Aisha Kigs yn seren Pop/R&B ar ei chynnydd. Wedi’i hysbrydoli gan artistiaid eiconig megis Missy Elliot, Beyoncé, Janelle Monáe a Whitney Houston, mae llais pwerus Kigs a’i pherfformiadau byw cofiadwy yn swyno cynulleidfaoedd.
Mae ei sengl Dime a Dozen eisoes yn denu sylw mawr ar blatfformau megis BBC Radio Wales, cyfres CURADUR S4C, a chyfres DJ Tina Edwards – Next Big Thing gyda British Airways; does dim terfyn i’w thalent!
Mae lansio’i EP Fire Hazard yn ei dinas enedigol, Caerdydd yn garreg filltir bwysig. Bydd y sioe yn llawn dop â cherddorion gorau Caerdydd, gwestion arbennig a pherfformiadau dawns egnïol.
Mae’n deg i ddweud bod Aisha Kigs yn artist i’w gwylio yng ngwanwyn 2024.