Beth wyt ti'n edrych am?
All Aboard! at Termination Station
Dyddiad(au)
01 Meh 2024
Amseroedd
20:30 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Cabaret-comedi am erthyliad…obvs!
Dyma stori Lilly: chwedl hunangofiannol eofn, ffraeth a ffres. Anffawd sy’n datod o’r tu fewn allan.
Dyma gofio’r bobl hynny a deimlodd yn unig, yn euog, a deimlodd rhyddhad, cywilydd, neu fawr ddim. I’r bobl hynny a waedodd lawer, neu fawr ddim. I’r bobl sy’n meddwl amdano’n aml a’r rheiny sydd ddim.
Bydd y gwaith hwn yn eich tanio chi i godi ar eich traed i gefnogi hawliau atgenhedlu!