Beth wyt ti'n edrych am?
An Inspector Calls
Dyddiad(au)
18 Chwe 2025 - 22 Chwe 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae cynhyrchiad arobryn y National Theatre gan Stephen Daldry o ddrama gyffrous JB Priestley yn dychwelyd ar ôl taith lwyddiannus a werthodd allan yn 2022.
Mae An Inspector Calls, sydd wedi ennill 19 o wobrau mawr a chael ei galw’n ddigwyddiad theatraidd yr oes, wedi gwefreiddio mwy na 5 miliwn o bobl ledled y byd.
Pan mae Inspector Goole yn cyrraedd yn annisgwyl yng nghartref llewyrchus y teulu Birling, caiff eu cinio tawel ei ddifetha gan ei ymchwiliadau i farwolaeth menyw ifanc. Mae ei ddatguddiadau brawychus yn ysgwyd sylfeini eu bywydau ac yn ein herio ni i gyd i archwilio ein cydwybodau.
Yn fwy perthnasol nag erioed, mae hon yn sioe arbennig i genhedlaeth newydd sbon.