Beth wyt ti'n edrych am?
Annie
Dyddiad(au)
07 Gorff 2026 - 18 Gorff 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae cynhyrchiad llwyddiannus y West End o Annie, hoff sioe gerdd deuluol y byd, yn dychwelyd i Gaerdydd am bythefnos yn unig.
Wedi’i osod yn Efrog Newydd yn y 1930au, mae Annie’n ferch ifanc ddewr sy’n cael ei gorfodi i fyw bywyd o ddioddefaint yng nghartref plant Miss Hannigan. Mae ei lwc yn newid pan gaiff ei dewis i dreulio’r Nadolig gyda’r biliwnydd enwog Oliver Warbucks. Yn y cyfamser, mae syniadau eraill gan Miss Hannigan ac mae’n cynllwynio i ddifetha ymgais Annie i chwilio am ei theulu go iawn…
Gyda llyfr a sgôr a enillodd wobr Tony®, gan gynnwys y caneuon bythgofiadwy It’s The Hard-Knock Life, Easy Street, I Don’t Need Anything But You a Tomorrow, rydych chi’n siŵr o fwynhau!