Beth wyt ti'n edrych am?
Picnic yn y Parc Diwrnod y Lluoedd Arfog
Dyddiad(au)
20 Meh 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Dewch i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog ym Mharc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd gyda phicnic cymunedol ar gyfer pawb o bob oed.
Bydd yn gyfle i chi fwynhau adloniant byw, gweithgareddau cyfeillgar i deuluoedd, ac yn gyfle i chi ddangos eich gwerthfawrogiad i’n Lluoedd Arfog, ein cyn-filwyr, a’u teuluoedd.
Dewch â phicnic, ymlaciwch yn y parc, ac ymunwch â ni am ddiwrnod o gofio, teimlo’n rhan o’r gymuned, a dathlu ger Llwyfan y Bandiau.