Barnum

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Camwch i mewn i fyd lliwgar P. T. Barnum, lle does dim ffiniau ar ddychymyg nac uchelgais.

Law yn llaw â’i wraig Charity, mae bywyd a gyrfa Barnum yn troi a throelli wrth iddo gynllunio a breuddwydio ei ffordd i fywyd gwell.

Bydd ffefryn y West End a’r seren deledu Lee Mead yn camu ar y llwyfan fel dyn sioe adnabyddus y 19eg ganrif P. T. Barnum. Daeth Lee yn enwog ar ôl ennill Any Dream Will Do a pherfformiadau llwyddiannus yn Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat, Wicked a Legally Blonde.

Bydd y llwyfannu newydd ysblennydd yma yn cynnwys cast ensemble arbennig o dros 20 o actorion-cerddorion yn chwarae 150 o offerynnau, acrobatiaid ac actau syrcas rhyfeddol. Mae’n sicr y bydd cynulleidfaoedd yn cael eu difyrru gan bob golygfa, rhyfeddod a gwyrth sy’n gysylltiedig ag enw Barnum!

Enillodd Barnum galon y DU yn gyntaf pan gafodd ei berfformio yn y London Palladium, gyda Michael Crawford yn creu hanes yn y byd theatr gan gerdded ar raff bob nos ar draws y llwyfan. A nawr, mae Lee Mead yn camu i mewn i esgidiau Barnum ac ar y rhaff!

Dewch i ddilyn y band gyda cherddoriaeth ogoneddus yr arobryn Cy Coleman, geiriau Michael Stewart a llyfr Mark Bramble. Mae Barnum yn cynnwys llwyth o ganeuon sioe gan gynnwys Join the Circus, Colours of My Life, Come Follow the Band a Love Makes Such Fools of Us All.

s All.