Neidio i'r prif gynnwys

BBC NOW | Concerto i Gerddorfa Gan Bartók

Dyddiad(au)

09 Mai 2024

Amseroedd

19:30

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Caroline Shaw

The Observatory [Premiere DU]

Ravel 

Concerto i’r Piano yn G

Bartók

Concerto i Gerddorfa

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Giancarlo Guerrero  arweinydd

Sergio Tiempo piano

Dyma’r tro cyntaf i waith Caroline Shaw, The Observatory, gael ei berfformio yn y DU.  Gyda’i gyfuniad o ddryswch ac eglurder, blaendir a chefndir, yr ysbrydoliaeth ar gyfer y darn oedd ymweliad ag Arsyllfa Griffin ger Hollywood Bowl. Ynddo, mae’n archwilio ffyrdd newydd o edrych ar y bydysawd, gan asio’r hen a’r newydd mewn llif ymwybod nad yw byth yn dod i ben yn yr union le y dechreuodd.

Bydd concerto eiconig Ravel i’r piano, sy’n gyforiog o gyferbyniadau telynegol, alawon sionc a llinellau cymhleth cyfoethog i’r piano, yn cael ei berfformio gan y pianydd heb ei ail, Sergio Tiempo, wrth iddo ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW. Dathliad pur o gerddoriaeth a lliwiau offerynnau, I gloi’r rhaglen syfrdanol hon, cawn berfformiad o Goncerto Bartók i Gerddorfa, gyda’i adleisiau o gerddoriaeth werin, dan arweiniad Giancarlo Guerrero, yr arweinydd o Costa Rica sydd wedi ennill Gwobr Grammy.