Neidio i'r prif gynnwys

BBC NOW | Cyngerdd Clo’r Tymor

Dyddiad(au)

06 Meh 2024

Amseroedd

19:30 - 21:30

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Dvořák

Concerto i’r Soddgrwth

Jennifer Higdon

Blue Cathedral

Dawson

Negro Folk Symphony

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ryan Bancroft  arweinydd

Alisa Weilerstein  soddgrwth

Bydd y chwaraewr soddgrwth fyd-enwog, Alisa Weillerstein, yn ymuno â BBC NOW yn y cyngerdd hwn i gloi’r tymor. Mae ei athrylith felodaidd, ei egni anorchfygol a’i gariad at gerddoriaeth werin frodorol ei wlad yn rheiddio drwy goncerto virtuoso uchel ei barch Dvořák i’r soddgrwth.

Mae dyfeisiadau cerddorol greddfol, offeryniaeth gyfoethog ac awyrgylch breuddwydiol, synfyfyriol, arallfydol yn ymledu drwy waith medrus Higdon, Blue Cathedral – taith sonig drwy ofod cysegredig ac i fyny i’r nefoedd. Mae synwyrusrwydd a melodïau didwyll yn llifo allan o waith Dawson, Negro Folk Symphony, sydd wedi’i hysbrydoli gan y “gerddoriaeth werin negroaidd” roedd wedi’i dysgu pan oedd yn blentyn bach. Mae’r symffoni hon, sydd wedi’i llunio’n fedrus ac yn llawn emosiwn, yn athrylith pur, a phwy well i arwain y diweddglo cyffrous hwn i’r tymor na’n Prif Arweinydd, Ryan Bancroft.