Neidio i'r prif gynnwys

BBC NOW | Gergely Madaras Conducts...

Dyddiad(au)

21 Meh 2024

Amseroedd

19:30 - 22:00

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Debussy

Prélude à l’après-midi d’un faune

Debussy

Nocturnes

Christian Mason

Flute Concerto – Thaleia [Premiere DU]

Franck

Le Jardin d’Eros o Psyché

Gergely Madaras arweinydd

Noemi Gyori ffliwt

Yn Prélude à l’après-midi d’un faune gan Debussy – darn arloesol sy’n portreadu breuddwydion a chyfarfyddiadau ffawn mytholegol – mae amwysedd byrlymus a harmonïau tryloyw yn disgleirio yn y darn, gyda’i alawon sy’n dwyn arlliw o ysbrydoliaeth gan y Dwyrain, ei naws gynnil a’i brydferthwch pur. Yna, yn ei Nocturnes, a ysbrydolwyd gan set o baentiadau o’r un enw gan Whistler, rydym yn archwilio golau a chysgod. O’r awyr i’r môr, clywn alaw befriog, ysgafn ochr yn ochr ag egni rhythmig gwerinol, a chaneuon iasol y seireniaid ar y môr yn tarfu ar y dŵr chwyrlïog – edefyn disglair a ychwanegir at y tapestri sain sydd eisoes yn gelfydd.

Gan ddefnyddio’r ffliwt mewn arddull bersain ddi-ffrwyn, sy’n adlewyrchu l’après-midi gan Debussy, ysgrifennwyd Thaleia – concerto i’r ffliwt a gyfansoddwyd gan Christian Mason ar gyfer Noemi Gyori fel rhan o’i phrosiect ‘Contemplatation of the Nymph’, lle mae nodweddion Thaleia, afondduwies Etna, yn ganolog. Rydyn ni’n falch iawn bod Noemi yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a’r arweinydd Gergely Madaras ar gyfer y perfformiad cyntaf erioed o’r gwaith yn y DU, cyn i Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ymuno ar gyfer diweddglo’r cyngerdd cyfareddol hwn – Le Jardin d’Eros o’r gathl symffonig Psyché gan Franck, sydd wedi’i gosod i eiriau Sicard a Louis de Fourcaud a’i ysbrydoli gan Metamorphoses gan Apuleius.