Beth wyt ti'n edrych am?
BBC NOW | The Island of Never Too Late
Dyddiad(au)
28 Gorff 2024
Amseroedd
15:00 - 16:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Pengwiniaid, eirth gwyn a môr-wenoliaid y gogledd ar ynys yng Nghymru – does bosib bod hynny’n iawn?
Ymunwch â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Neuadd Hoddinott y BBC ym mis Gorffennaf i ddarganfod stori merch ifanc o’r enw Siân, sy’n gweld effeithiau dinistriol newid hinsawdd ar gynefinoedd pengwiniaid, eirth gwyn a môr-wenoliaid y gogledd, a’i chenhadaeth i ddod o hyd i ateb i wella pethau. Sut y bydd hi’n gwneud hynny? Pa atebion y bydd hi’n dod o hyd iddynt? Ymunwch â ni i gael gwybod…
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Adroddwr: Elin Llwyd
Arweinydd: Grant Llewellyn