Neidio i'r prif gynnwys

Bear Grylls | The Never Give Up Tour

Dyddiad(au)

26 Ebr 2024

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bydd yr eicon antur, y cyflwynydd teledu arobryn a’r awdur llwyddiannus Bear Grylls yn ysbrydoli ac yn cyfareddu cynulleidfaoedd ym mis Ebrill gyda’i straeon am antur a goroesi.

Bydd y sioe, a fydd yn brofiad bythgofiadwy i’r teulu cyfan, yn cynnwys delweddau dychrynllyd, na welwyd o’r blaen, a fideos tu ôl i’r llen anhygoel sy’n adrodd stori dyn sydd byth yn rhoi fyny.

Mae Bear Grylls yn fwyaf adnabyddus am wthio ei hun, yn feddyliol ac yn gorfforol. Gan fynd â’r gynulleidfa ar daith gyfareddol drwy ei fywyd anhygoel, o’i ddyddiau cynnar yn 21 SAS i ddod yn un o ddringwyr ieuengaf erioed Everest, mae ei stori’n ymwneud â goresgyn adfyd a methiant yn ogystal â phenderfyniad dygn i ddilyn eich breuddwydion.

Bydd Bear yn rhannu straeon am ei brofiadau yn y gwyllt a’i eiliadau mwyaf cyffrous o oroesi a gwydnwch – o wella yn dilyn damwain parasiwt a oedd bron yn angheuol lle torrodd ei gefn, i’r heriau corfforol anferth mae wedi eu hwynebu yn y gwyllt, gan oroesi er gwaethaf pob disgwyl.