Bellowhead

Dyddiad(au)

22 Tach 2026

Amseroedd

19:00

Lleoliad

Theatr Newydd, Plas y Parc, Caerdydd CF10 3LN

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae Bellowhead yn dathlu 20 mlwyddiant eu halbwm cyntaf Burlesque yn 2026. Fe wnaeth y band gwerin 11 darn ddangos yn glir bod band mawr yn gallu gweithio wrth ryddhau Burlesque sy’n cynnwys caneuon megis London Town, Frog’s Legs and Dragon’s Teeth a Rigs of The Time.

Gan arddangos eu cymysgedd unigryw o gerddoriaeth werin draddodiadol Lloegr gyda sain band mawr modern, aeth Bellowhead ymlaen ar ôl Burlesque i recordio 4 albwm stiwdio arall (gan werthu dros chwarter miliwn o gopïau), gan dderbyn 2 ddisg arian ac ennill 8 Gwobr Werin BBC Radio 2 cyn rhoi’r gorau iddi yn 2016. Ar ôl seibiant ac wedi’u hysgogi gan nifer aruthrol o ffrydiau ar-lein yn ystod y pandemig, ail-unodd y band ar gyfer taith boblogaidd orfoleddus yn 2022 ac ailadrodd y llwyddiant yn 2024 wrth ddathlu 20 mlynedd o berfformio gyda’i gilydd. Cadarnhaodd y ddwy daith eu statws fel un o’r artistiaid gwerin mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd yn y DU.