Beth wyt ti'n edrych am?
GDGC x Llais · Bess Atwell
Dyddiad(au)
09 Hyd 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mi wnaeth Bess Atwell rhyddhau ei albwm cyntaf, Hold Your Mind, pan oedd hi yn 19 mlwydd oed, yn cyflwyno cyfansoddwraig â chywirdeb emosiynol anghyffredin. Ers hynny mae wedi parhau i dyfu fel perfformiwr ac ysgrifennwr, yn rhyddhau dau albwm pellach; Already Always a Light Sleeper, sydd wedi derbyn clod critigol.
Yn dilyn rhyddhad Already Always yn 2021, fe aeth Bess ar deithiau cerddorol eang, yn agor perfformiadau i artistiaid fel The National, Ben Howard ac Ed Sheeran. Yn ystod y cyfnod yma, mi wnaeth y byd digidol cofleidio caneuon fel ‘Time Comes in Roses’ a ‘Nobody’, tra oedd ‘Co-op’ yn ffefryn ar BBC 6 Music, yn arwain at y datblygiad o gynulleidfa ymroddgar.
Cafodd ei trydydd albwm, Light Sleeper, eu cynhyrchu gan Aaron Desser; sy’n adnabyddus am ei waith efo Taylor Swift ac am fod yn rhan o The National, band mae Bess wedi edmygu ers oes.
Wedi eu recordio yn Long Pond Studio, cafodd yr albwm eu camol gan adolygwyr a chynulleidfaoedd. I gefnogi’r albwm, aeth Bess ar deithiau ar draws y DU ac Ewrop, yn ogystal â pherfformio ei sioeau cyntaf yn Awstralia a Canada. Cafodd ei sioe pennawd mwyaf ar hyn o bryd eu cynnal yn KOKO, yn dilyn ei ymddangosiad gyntaf yn ŵyl Glastonbury.
Ar ddechrau 2026, treuliwyd Bess rhan fwyaf o fis Ionawr yn recordio ei pedwerydd albwm yn Los Angeles, sy’n anelu am ryddhad ar ddiwedd y flwyddyn. Yna, mi wnaeth hi ymgymryd ar daith ar draws y DU ag Ewrop efo’r band Awstraliaid, The Paper Kites.