Beth wyt ti'n edrych am?
Bingo at Tiffany’s with Audrey Heartburn
Dyddiad(au)
20 Ebr 2024
Amseroedd
20:30 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Yn galw ar wneuthurwyr breuddwydion, torwyr calonnau a charedigion bingo!
Ymunwch â’r ddigrifwraig cymeriad arobryn, Tracey Collins (Shell Suit Cher, Elvis Lesley) wrth iddi gynnal Bingo at Tiffany’s gydag Audrey Heartburn. Dewch i chwerthin, dawnsio a chwarae i ennill gwobrau all newid eich bywyd, wrth i Audrey chwyrlio’i chawell o beli bingo, canu clasuron Tom Jones ac ysgwyd ei maracas cerddorol i drac sain parti gwyllt.
Daw Audrey yn ôl i Gaerdydd o Hollywood, yn chwilio am gariad go iawn, peint a phaced o greision! Dyma uchafbwynt newydd sbon i adloniant bingo. Ewch am yr aur f’anwyliaid!
33 – G&T!
48 – Let’s Gyrate!