Beth wyt ti'n edrych am?
Blodwen’s in Business
Dyddiad(au)
19 Gorff 2024 - 21 Gorff 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Blodwen ’nôl, gyda job ffansi, cwpwrdd yn llawn sgertiau pensil, a chwant am fywyd swyddfa (gallai hi ffeindio antur mewn clip papur – ac mae hi’n gwneud hynny!). Ond beth sy’n digwydd pan fydd y disgleirdeb yn pylu..?
Dyma’r drydedd sioe mewn cyfres o sioeau cabare cerdd comedi un-fenyw gan Emily Davis, sy’n dilyn Blodwen wrth iddi adael ei thre enedigol yn y gorllewin a theithio i Lundain a Pharis i chwilio am ramant ac antur. Fe berfformiodd Emily’r ail sioe, Blodwen’s in Town, yma ym mis Ebrill.