Beth wyt ti'n edrych am?
Blodwen’s in Town
Dyddiad(au)
11 Ebr 2024
Amseroedd
20:30 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Blodwen, sy’n aml yn cael ei chamgymryd yn blentyn cariad Tom Jones a Victoria Wood, yn mynd ar daith o fryniau cyfarwydd Cymru braf i fwg y ddinas ddrwg, Llundain, ac yna’n croesi’r sianel am bennod newydd yn ninas rhamant.
Ymunwch â hi ar ei thaith yn chwilio am antur, cariad a chyfeillgarwch, pethau sydd i’w canfod yn y llefydd mwyaf annisgwyl.
Gyda chaneuon gwreiddiol yn ogystal ag ambell i glasur sydd wedi’i ail-ddychmygu. Dyma sioe gerdd gomedi gan Gymraes eofn gyda llais trawiadol, sy’n gariad i gyd, a chanddi’r tuedd i i daflu ei hun i’r pen dwfn…