Beth wyt ti'n edrych am?
Bob Marley Tribute | Legend
Dyddiad(au)
28 Awst 2026
Amseroedd
19:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Wrth feddwl am reggae, dim ond un enw ddaw i’r meddwl. Mae Legend – The Music of Bob Marley yn noson fythgofiadwy i ddathlu’r eicon cerddorol hwn mewn sioe lwyfan wych. Gan gyfuno ei lais gwych, unigryw a’i ddoniau cerddorol perffaith, mae cast hynod dalentog yn ail-greu’r clasuron Could You Be Loved, Is This Love, One Love, No Woman No Cry, Three Little Birds, Jammin’, Buffalo Soldier, Stir It Up, Get Up Stand Up, Exodus, Waiting in Vain, Satisfy My Soul, Iron Lion Zion, I Shot the Sheriff a llawer mwy o glasuron reggae. Yn syth o sioe a werthodd bob tocyn yn Theatr Adelphi Llundain, sioe ysblennydd dwy awr o hyd, yn arddangos hud Marley. Mae’n adlewyrchu carisma a diwylliant eicon a’n gadawodd yn rhy ifanc o lawer.