Neidio i'r prif gynnwys

Brecinio Di-derfyn yn y Live Lounge

Dyddiad(au)

16 Ion 2025 - 30 Meh 2025

Lleoliad

The Live Lounge, Unit 9 Queenswest, The Friary, Caerdydd, CF10 3FA

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Paratowch eich hun ar gyfer 90 munud o ddiodydd diderfyn, wrth wrando ar ein cerddoriaeth fyw a threulio amser gyda’ch ffrindiau.

Mae gennych ddewis rhwng y pecyn “Brecinio Di-derfyn y Live Lounge” am £32.50 neu’r pecyn “Brecinio Di-derfyn Platinwm y Live Lounge” am £37.50.

Mae pob pecyn yn cynnwys prif bryd bwyd o’n bwydlen arbenigol, gyda’r opsiwn i uwchraddio eich pryd am ond £2.50.

Mae diodydd yn amrywio o brosecco, coctels, cwrw casgen, gwirodydd a photeli. Mae dewis yr opsiwn platinwm yn cynyddu’r dewisiadau o bob math o ddiod, felly beth bynnag yw’ch dewis, mae gan bob pecyn nifer wych o opsiynau i chi.

Mae’r Brecinio Di-derfyn ar gael bob dydd o’r wythnos:

  • Dydd Sul – Dydd Mawrth: 12PM – 9PM
  • Dydd Mercher: 12PM – 7PM
  • Dydd Iau: 12PM – 9PM
  • Dydd Gwener: 12PM – 7PM
  • Dydd Sadwrn: 12PM – 2PM