Buddy – The Buddy Holly Story

Dyddiad(au)

14 Mai 2026 - 17 Mai 2026

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Agorodd y sioe West End arobryn syfrdanol yma yn gyntaf yn 1989 ac mae wedi bod yn gwefreiddio cynulleidfaoedd ledled y byd ers hynny. Nawr mae’n ymweld â Chaerdydd fel rhan o’i daith ledled y DU 2025/26.

Bydd Buddy – The Buddy Holly Story yn gwneud i chi DEIMLO’N WYCH! Profwch y ddrama, angerdd a chyffro wrth i gast amldalentog o actorion-cerddorion adrodd stori Buddy Holly, o’i fagwraeth yn Texas i enwogrwydd rhyngwladol a’i berfformiad olaf hanesyddol yn y Surf Ballroom yn Clear Lake, Iowa, cyn ei farwolaeth drasig yn 22 oed.

Gyda dwy awr fendigedig o’r caneuon gorau a ysgrifennwyd erioed, gan gynnwys That’ll Be The Day, Oh Boy, Rave On, La Bamba, Chantilly Lace, Johnny B. Goode, Raining In My Heart, Everyday, Shout, Peggy Sue a llawer mwy, mae’r sioe yma yn un gwych!