Beth wyt ti'n edrych am?
Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd 2026
Dyddiad(au)
03 Gorff 2026 - 05 Gorff 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Bwyd a Diod Caerdydd yn dychwelyd ar 3 – 5 Gorffennaf 2026.
Mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd – un o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yng nghalendr haf y ddinas – yn dychwelyd i’w lleoliad arferol yn Roald Dahl Plass, Bae Caerdydd gyda llu o stondinwyr rheolaidd a digonedd o rai newydd, oll yn cynnig amrywiaeth ysblennydd o gynnyrch lleol. a danteithion o bedwar ban byd.
Yn ôl yr arfer, bydd rhaglen lawn o gerddoriaeth hefyd drwy gydol pob un o dridiau’r ŵyl.
Bydd mwy o fanylion a rhestr lawn o’r holl ddanteithion blasus sydd ar gael yn cael eu cyhoeddi’n fuan!