Beth wyt ti'n edrych am?
Cardiff Queer Comedy gyda Jodie Mitchell
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Cardiff Queer Comedy yn dychwelyd i’r Queer Emporium am ei bum mlynedd yn olynol, ac wrth ei lyw, ei cyflwynydd, Leila Navabi! Yn dychwelyd o’i daith o gwmpas y Deyrnas Unedig gyda’i sioe, ‘Relay’, mae hi nôl yn Nghaerdydd gyda chast o ddigrifwyr anhygoel! Am sioe cyntaf y flwyddyn, mae Jodie Mitchell yn ymuno â hi!
Mwy o berfformwyr i gael ei cyhoeddi!
Leila Navabi
Mae Leila Navabi yn ysgrifennydd a chomedïwr o De Cymru. Yn 2023, aeth hi i Ŵyl Ffrinj Caeredin gyda’i sioe, Composition. Cafwyd ei disgrifio fel ‘dyfodol comedi’ gan LMAOnaise, ac mae wedi perfformio ar sioeau gan gynnwys ‘BBC New Comedy Awards 2022’ (BBC), ‘Live at Aberystwyth Pier’ (BBC) ‘Stand-up Sesh’ (BBC), ‘Stand Up in My House’ (BBC) a ‘The Leak’ (BBC). Maent yn ddwyieithog ac wedi serennu yn ‘Ffyrnig’ (S4C) a ‘Ni y Nawdegau’ (BBC Cymru). Mae hi wedi cefnogi Jessica Fosterkew, Laura Smyth a Nish Kumar ar daith.
Jodie Mitchell
Mae Jodie Mitchell yn ddigrifwr, ysgrifennydd a brenin drag o’r enw John Travulva. Cydsefydlwyd Mitchell The LOL Word, casgliad o berfformwyr comedi am fenywod cwiar, traws a phobl anneuaidd. Ar y teledu, maent wedi perfformio ar sioeau ar Comedy Central Live, Channel 4 ac ysgrifennu am ‘Sex Education’. Yn 2023, aethon nhw i Ŵyl Ffrinj Caeredin gyda’u sioe, ‘Becoming John Travulva’.