Beth wyt ti'n edrych am?
Cats
Dyddiad(au)
25 Mai 2027 - 29 Mai 2027
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae cynhyrchiad mawreddog newydd o sioe gerdd benigamp Andrew Lloyd Webber, Cats, yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru.
Rhwng gorsaf Euston a Victoria Grove, mae cathod strae a gwrthryfelwyr Llundain yn ymgynnull dan y ‘Jellicle moon’ yn y gobaith o gael eu dethol uwchlaw pob un o’r lleill. Ac mae pob un yn gofyn, yn ddewr, pwy fydd hwnnw?
Yn seiliedig ar Old Possum’s Book of Practical Cats gan T.S. Eliot a gyda sgôr anfarwol a fu’n ysbrydoliaeth i un genhedlaeth ar ôl y llall, gan gynnwys Old Deuteronomy, Macavity: The Mystery Cat, Jellicle Ball a’r gân aeth i frig y siartiau, Memory, bydd y cynhyrchiad newydd sbon yma o Cats, gyda Drew McOnie (Brigadoon, Jesus Christ Superstar) yn cyfarwyddo a choreograffu, yn cyrraedd ar 25 Mai 2027 am wythnos yn unig.