Neidio i'r prif gynnwys

Chicago

Dyddiad(au)

05 Mai 2025 - 10 Mai 2025

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae Chicago, y sioe gerdd fwyaf rhywiol erioed, ‘nôl yng Nghaerdydd yn 2025.

“Murder, greed, corruption, exploitation, adultery and treachery…all those things we hold near and dear to our hearts” – dyna sut mae’r sioe gerdd ryngwladol arobryn Chicago yn dechrau.

Wedi’i osod ymhlith dirywiaeth yr 1920au, Chicago yw stori Roxie Hart, gwraig tŷ a dawnsiwr clwb nos sy’n llofruddio ei chariad ar ôl iddo fygwth ei gadael hi. Yn barod i wneud unrhyw beth i osgoi euogfarn, mae hi’n twyllo’r cyhoedd, y cyfryngau a’i chyd-garcharor Velma Kelly drwy gyflogi cyfreithiwr troseddol mwyaf slic Chicago i drawsnewid ei throsedd faleisus yn gawod o benawdau syfrdanol, sydd ddim yn annhebyg i’r rhai rydyn ni’n eu gweld mewn tabloidau heddiw.

Wedi’i chreu gan ddoniau theatr gerdd John Kander, Fred Ebb a’r coreograffydd enwog Bob Fosse, mae sgôr rhywiol a sosi Chicago, sydd ag un gân stopio sioe ar ôl y llall, yn cynnwys Razzle Dazzle, Cell Block Tango, ac All That Jazz. Gyda chwe Gwobr Tony, dwy Wobr Olivier, Grammy® a miloedd o gymeradwyaethau sefyll, mae Chicago wir yn wych.

Peidiwch â cholli allan, archebwch nawr! Byddai peidio dod yn drosedd…