Neidio i'r prif gynnwys

Chitty Chitty Bang Bang

Dyddiad(au)

15 Ebr 2025 - 19 Ebr 2025

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae’r sioe gerdd fwyaf rhyfeddol erioed yn hedfan i Ganolfan Mileniwm Cymru am bum diwrnod yn unig!

Cynhyrchiad newydd sbon o’r ffefryn teuluol yma gyda Liam Fox (Emmerdale) fel Grandpa Potts. Wedi’i gyfarwyddo gan Thom Southerland (Titanic, Parade), ei goreograffu gan Karen Bruce (Strictly Come Dancing y BBC, The Bodyguard) a’i ddylunio gan Morgan Large (Newsies, Joseph and the Technicolour Dreamcoat), mae’r sioe gerdd arobryn a chyfareddol yma yn llawn caneuon bythgofiadwy gan y brodyr Sherman gan gynnwys Toot Sweets, Hushabye Mountain, Truly Scrumptious ac wrth gwrs y gân a gafodd ei henwebu am un o wobrau’r Academi, Chitty Chitty Bang Bang.

Yn seiledig ar stori ddiamser Ian Fleming i blant a addaswyd ar gyfer y ffilm enwog o 1968, yn Chitty Chitty Bang Bang rydyn ni’n cwrdd â’r dyfeisiwr anghofus Caractacus Potts sy’n adnewyddu hen gar rasio gyda help ei blant Jemima a Jeremy. Yn fuan, mae’r teulu’n darganfod bod gan y câr bwerau hudol, ac ynghyd â Truly Scumptious, mae’r teulu’n mynd ar antur ryfeddol a doniol i wledydd pell. Mae eu taith dwymgalon yn gwneud Chitty Chitty Bang Bang yn sioe arbennig llawn hwyl i’r teulu cyfan.

Peidiwch â gadael iddi hedfan hebddoch chi!