Chris Ramsey

Dyddiad(au)

25 Ebr 2026

Amseroedd

19:30

Lleoliad

Theatr Newydd, Plas y Parc, Caerdydd CF10 3LN

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Yn dilyn galw llethol (yn bennaf gan ei wraig Rosie sydd wir eisiau ei gael e allan o’r tŷ), bydd Chris Ramsey yn ôl ar y ffordd yn 2026 gyda sioe stand-yp newydd sbon.

‘Here Man’ yw’r dilyniant cyffrous i daith stand-yp ddiwethaf Chris, ‘2020’, a welodd e’n perfformio i dros 100,000 o bobl ledled y wlad (er, diolch i Covid, yn hwyrach na’r bwriad a gyda theitl ychydig yn anffodus i’r daith!).

Wedi serennu ar The Chris & Rosie Ramsey Show, Strictly Come Dancing, a Taskmaster, wedi cyflwyno Plant mewn Angen, a chyd-gyflwyno ei bodlediad priodasol wythnosol hynod o boblogaidd, gyda’i wraig (amyneddgar) Rosie Ramsey, peidiwch â cholli’r cyfle i weld Chris wrth iddo ddod â’i stand-yp nodweddiadol i leoliad yn agos atoch chi.