Helfa'r Nadolig: Ceirw Coll

Dyddiad(au)

29 Tach 2025 - 23 Rhag 2025

Amseroedd

10:00 - 16:00

Lleoliad

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd CF5 6XB

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Helpu i Achub y Nadolig!

Mae’r corachod bach drygionus wedi gadael drysau’r stabl ar agor, ac mae ceirw Siôn Corn wedi dianc a chuddio ar hyd llwybrau’r amgueddfa! Gyda Noswyl Nadolig yn prysur agosáu, mae angen eich help arnom i ddod o hyd iddynt a dod â nhw yn ôl i Begwn y Gogledd mewn pryd ar gyfer noson bwysicaf y flwyddyn.