Beth wyt ti'n edrych am?
Chwarae Opera YN FYW
Dyddiad(au)
12 Ebr 2025
Amseroedd
15:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Play Opera LIVE
Y sioe deulu perffaith ar gyfer yr ifanc ac ifanc eu hysbryd
Yn cynnwys cerddoriaeth ogoneddus o’r llwyfan a’r sgrin, y sioe deuluol ryngweithiol ac addysgol hon yw’r cyflwyniad perffaith i fyd bendigedig opera a cherddoriaeth glasurol.
Gyda Cherddorfa clodwiw WNO yn dod â’r perfformiad yn fyw, bydd ein cyflwynydd arbennig Tom Redmond, yn eich cyflwyno i’r Gerddorfa a’i hofferynnau niferus, ein perfformwyr talentog, ac wrth gwrs, y gerddoriaeth y byddwch yn ei chlywed yn ystod y prynhawn – rhai o’n ffefrynnau i’w perfformio. Bydd awyrgylch hamddenol y sioe yn eich caniatáu i ymgolli’n llwyr yn y gerddoriaeth a’r ddrama – byddwch yn clapio, dawnsio a chanu yn yr eiliau.
Ymgollwch yn hud cefn llwyfan y byd opera yn ystod ein gweithgareddau am ddim yn y cyntedd, a fydd ar gael o 1pm. Dewch i edrych ar rai o’n gwisgoedd, creu propiau a mwynhewch ein gorsafoedd goleuo a sain. Os nad yw hynny’n ddigon, bydd hyd yn oed helfa drysor.