Neidio i'r prif gynnwys

Clumsy Cabaret | Comic Book Strip Tease

Dyddiad(au)

28 Med 2024

Amseroedd

20:30 - 22:30

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae bod yn swot yn secsi!

Mae Clumsy Cabaret ’nôl gyda chyfuniad o ganu byw, drag a bwrlésg mewn noson o berfformiadau ar thema’r arwr a’r dihiryn, gan berfformwyr anhygoel fel Alice Bizarre, Ruby Derriere, Ophelia Wilde a llawer mwy.

Noson gabare arbrofol yw Clumsy Cabaret, sy’n ceisio rhoi llwyfan i berfformwyr niwroamrywiol, anabl ac sydd wedi’u tangynrychioli. Mae cyfuniad o berfformwyr newydd ac adnabyddus bob tro, sy’n creu noson unigryw a hwyliog i bawb sy’n rhan ohoni.