Beth wyt ti'n edrych am?
Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin
Dyddiad(au)
01 Hyd 2024 - 03 Tach 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ail-ddeffro’r hanes anghofiedig.
Rydyn ni yn Montgomery, Alabama, yng nghanol taleithiau gwahanedig de’r Unol Daleithiau, ar fws 2.30pm, ar 2 Mawrth 1955. Mae Claudette Colvin, merch Ddu 15 oed, yn gwrthod ildio’i sedd i deithiwr gwyn. Er gwaethaf bygythiadau, mae’n aros yn ei sedd. Ar ôl cael ei thaflu i’r carchar, mae’n penderfynu erlyn y ddinas a phledio’n ddieuog. Ar y pryd, doedd neb byth yn meiddio gwneud y fath beth. Ac eto, does neb yn cofio’i henw.
Mae Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin yn brofiad trochol sydd wedi’i addasu o ysgrif fywgraffyddol, a ysgrifennwyd gan Tania de Montaigne, sy’n olrhain hanes Claudette Colvin a’i thaith o frwydr i gael ei gadael.
Pan ailadroddodd Rosa Parks yr un weithred naw mis yn ddiweddarach, newidiodd popeth. Gyda chefnogaeth gweinidog ifanc a oedd wedi cyrraedd Montgomery yn ddiweddar, sef Martin Luther King Jr., daeth Rosa Parks yn arwres ac yn wreichionen a daniodd y mudiad hawliau sifil. Crëwyd hanes. Claudette Colvin wnaeth y cyfan yn bosib, ond hi yw’r un sydd wedi cael ei hanghofio. Mae hi’n dal i fyw yn yr Unol Daleithiau heddiw, ac yn 83 oed.
Mae Colored yn tynnu’r gynulleidfa i mewn i leoliad a fydd cyn hir yn llawn o ysbrydion Alabama’r pumdegau. Diolch i realiti estynedig, sy’n caniatáu yn fwy na’r un dechnoleg arall i’r presennol gwrdd â’r gorffennol, gall stori Claudette ddod yn stori i ni, gan osod ei hunan yn ein hatgofion fel eiliad ‘fyw’ yn ein profiad ni ein hunain lle gallwn ni i gyd ddod yn dystion i’r weithred arwrol yma.
Mewn set a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer y profiad, bydd golygfeydd eiconig o fywyd Claudette Colvin yn ystod ei brwydr dros hawliau sifil yn cael eu hailchwarae o flaen eich llygaid. P’un a fyddwch ar eich pen eich hunan neu yng nghwmni rhywun, cewch ymuno â’ch cyfoedion mewn cyd-brofiad.
‘Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin’, wedi’i gyfarwyddo gan Stéphane Foenkinos a Pierre-Alain Giraud, yn seiliedig ar waith Tania de Montaigne, wedi’i gynhyrchu gan Novaya mewn partneriaeth â’r Centre Pompidou, a’i gyd-gynhyrchu gyda Flash Forward Entertainment (Taiwan).
Enillydd y Wobr am Waith Ymdrochol Gorau y 77fed Festival de Cannes.