Beth wyt ti'n edrych am?
Come From Away
Dyddiad(au)
02 Ebr 2024 - 06 Ebr 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
7,000 o deithwyr heb gludiant. Un dref fach. Stori wir ryfeddol.
Mae’r sioe lwyddiannus yma, sydd wedi ennill pedair gwobr Olivier gan gynnwys y Sioe Gerdd Orau yn Llundain a gwobr Tony am Gyfarwyddyd Gorau Sioe Gerdd ar Broadway, yn rhannu stori go iawn anhygoel y 7,000 o deithwyr awyr o bedwar ban byd a gafodd eu hailgyfeirio i Ganada yn sgil 9/11, a’r gymuned Newfoundland fach a wahoddodd y bobl yma i mewn i’w bywydau â chalonnau agored.
Dewch i brofi’r stori lawen a’r gerddoriaeth arbennig yma wrth i bobl leol frwdfrydig a theithwyr byd-eang ddod ynghyd i ffurfio cyfeillgarwch a fydd yn aros gyda nhw am byth. Mae capten benywaidd cyntaf American Airlines, maer meddylgar y dref, mam diffoddwr tân yn Efrog Newydd a gohebydd newyddion lleol awyddus ymhlith y nifer o gymeriadau go iawn a oedd yno ar ddechrau’r foment a newidiodd hanes ac y daeth eu straeon yn ddathliad go iawn o obaith, dynoliaeth ac undod.
Mae’r cyfarwyddwr sydd wedi ennill gwobr Tony Christopher Ashley ochr yn ochr â’r awduron sydd wedi ennill gwobr Olivier Irene Sankoff a David Hein yn dod â’r stori wir ddyrchafol yma i’r llwyfan mewn cynhyrchiad emosiynol sydd yn gwneud i gynulleidfaoedd godi ar eu traed noson ar ôl noson.